Mae cynghorwyr yn Sir Benfro wedi clywed y gallai “cytundeb” i ostwng nifer y diwrnodau mae angen i fusnesau gwyliau hunanarlwyo gael eu bwcio fod yn gyfaddawd pe bai’r dreth gyngor ar ail gartrefu’n codi.
Yn sgil rheolau treth lleol newydd gafodd eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru’n gynharach eleni, mae modd i awdurdodau lleol osod a chasglu premiwm treth gyngor o hyd at 300% ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.
Ar hyn o bryd, mae Sir Benfro’n gweithredu premiwm treth gyngor o 100% ar ail gartrefi, a chafodd premiwm ar gyfer eiddo gwag hirdymor ei gyflwyno yn y sir yn 2019 ar gyfer eiddo fu’n wag ers tair blynedd neu fwy.
182 diwrnod y flwyddyn
Yng nghyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau’r Cyngor ar Dachwedd 14, cafodd aelodau ddiweddariad blynyddol am y cwmni nid-er-elw Croeso Sir Benfro, gafodd ei gyflwyno’n rhannol gan Gyngor Sir Penfro.
Dywedodd y Prif Weithredwr Emma Thornton fod y rheol hunanarlwyo 182 diwrnod yn parhau i gynnig heriau i weithredwyr twristiaeth yn y sir.
Mae meini prawf diweddar Llywodraeth Cymru’n golygu bod rhaid i lety gwyliau fod ar osod am 182 diwrnod y flwyddyn er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cyfradddau busnes yn hytrach na thalu’r premiwm treth gyngor.
“Mae’r argyfwng tai yn un go iawn, ond mae yna gyfleoedd twristiaeth go iawn sy’n cael eu heffeithio’n ddifrifol gan y rheol newydd,” meddai.
Hefyd yn cael sylw roedd y cynnydd posib yn nhreth y cyngor i 300% ar gyfer ail gartrefi, sydd wedi’i ddisgrifio fel “cysgod” dros dwristiaeth hunanarlwyo, fyddai’n broblem yn benodol pe bai Sir Benfro’n mabwysiadu’r polisi ac nad yw awdurdodau lleol eraill yn ei fabwysiadu.
“Rhaid i ni fod yn synhwyrol a dweud bod hyn yn bryder sydd gan y gymuned fusnes, ond ar yr un pryd mae’n helpu’r gymuned fusnes i ddeall yr heriau gwirioneddol sydd gan y sector cyhoeddus.”
Ardoll
Dywedodd Mike Cavanagh, Pennaeth Gwasanaethau Diwylliannol, Hamdden, Twristiaeth a Chofrestru’r Cyngor, ei bod hi’n “eithriadol o bwysig ein bod ni’n manteisio ar y cyfle i dderbyn yr ardoll pe baen ni’n cael y cyfle”.
“Mae nifer fawr iawn o wasanaethau’n cael eu cyflwyno sy’n cefnogi’r economi ymwelwyr; maen nhw’n costio llawer iawn o arian i’w cyflwyno,” meddai.
Clywodd aelodau y gallai’r fath ardoll gyflwyno ryw £3.5m-£4m i’r sir.
“Y broblem yw, naill ai y byddwch chi’n derbyn ardoll a mantais hynny yw ein bod ni’n gwarchod gwasanaethau, neu dydych chi ddim yn derbyn ardoll ac rydych chi’n lleihau’r gwasanaethau hynny,” meddai wedyn.
‘Ni yw’r gwleidyddion, a ni sy’n gwneud y penderfyniadau’
Fe wnaeth sylwadau Mike Cavanagh ennyn dicter y Cynghorydd Huw Murphy.
“Os yw Mr Cavanagh eisiau sefyll ar gyfer swydd [yn y dyfodol], mae hynny i fyny iddo fe, ond ni yw’r gwleidyddion a ni sy’n gwneud y penderfyniadau,” meddai.
“Fe wnaeth Mr Cavanagh ei bwynt yn groch, a dw i’n credu y dylai stopio yn y fan yna.”
Yn ddiweddar, mae’r Cynghorydd Mike Cavanagh wedi cyflwyno hysbysiad cynnig yn galw am ostwng y rheol 182 diwrnod i 140 yn Sir Benfro, ac mae disgwyl i hynny gael ei ystyried gan uwch gynghorwyr mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Dywedodd fod ardoll twristiaid yn “gam yn ôl i dwristiaeth”, gan ychwanegu, “O ran y 182 diwrnod, dw i wedi cyflwyno hysbysiad cynnig, dw i’n credu bod angen ei leihau, bydd yn gwarchod yr economi.”
“Does gen i ddim ail gartref, felly dw i ddim yn eistedd yma â buddiant, ond dw i yn gwybod fod y bythynnod hunanarlwyo’n cael amser caled.
“Rhaid bod yna drafodaeth â Llywodraeth Cymru, a rhaid bod cytundeb.
“Mewn egwyddor, dw i ddim yn gwrthwynebu codi’r ardoll ail gartrefi, fodd bynnag, y cytundeb i fi fyddai gostwng y 182 diwrnod i 140, a byddai llawer o eiddo’n bwrw’r ugain wythnos.”
Gwrthwynebu
“Ar hyn o bryd, fyddwn i ddim yn hoffi gweld Sir Benfro yn mynd i lawr trywydd yr ardoll,” meddai’r Cynghorydd Tony Wilcox.
“Dw i wir yn credu y bydden ni’n colli mwy na’r £3m pe na bai ardaloedd eraill yn ei fabwysiadu.”