Mae Cymdeithas yr Iaith yn cwestiynu pa mor ddiduedd yw darlledwyr ar fater datganoli darlledu i Gymru, gan dynnu sylw at ddogfennau newydd.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi datgan eu cefnogaeth i ddatganoli darlledu, a hynny fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw am ymchwilio i’r posibilrwydd o greu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol i Gymru fel cam cyntaf, er mwyn mynd i’r afael â phryderon “ynghylch elfennau bregus yn y cyfryngau ar hyn o bryd a’r ymosodiadau ar eu hannibyniaeth”.

Panel

Fis Awst eleni, daeth panel arbenigol ynghyd i drafod y mater.

Cafodd y panel ei gomisynu gan Lywodraeth Cymru, ac fe gafodd ei arwain gan y darlledwr Melanie Doel a’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones.

Daeth y panel i’r casgliad y dylid sefydlu Awdurdod Cyfathrebu i Gymru o fewn deuddeg mis.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryderon am gynnwys llythyr gan Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru, at Lywodraeth Cymru, sydd wedi’i weld gan y mudiad yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth.

Dywed Rhuanedd Richards yn y llythyr at Dawn Bowden, y gweinidog yn Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb dros y cyfryngau, ei bod hi’n “synnu ac ychydig yn siomedig” gyda rhai canfyddiadau sy’n beirniadu’r Gorfforaeth.

Mae “nifer o sylwadau yn yr adroddiad fyddai, yn ein barn ni, wedi elwa o fwy o gyd-destun a dadansoddiad”, meddai, gan gyfeirio’n benodol at y gwymp honedig mewn oriau a safon newyddion a materion cyfoes, ac oriau rhaglenni addysg, ffeithiol a chrefyddol.

Fe wnaeth S4C ddanfon nodyn briffio at Aelodau’r Senedd y llynedd yn rhestru cyfres o resymau technegol fyddai’n gwneud datganoli darlledu’n anodd, ac mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud mai’rnod oedd “rhwystro datganoli pwerau darlledu i Gymru”.

‘Adroddiad annisgwyl’

Daw pryderon Cymdeithas yr Iaith yn dilyn adroddiad annisgwyl gan y BBC gan ffynhonnell ddienw yn honni nad oes bwriad gan y Llywodraeth i sefydlu Awdurdod Darlledu.

Yn yr e-byst yn trafod y stori, gafodd eu rhyddhau i’r Gymdeithas trwy’r cais rhyddid gwybodaeth, dywed swyddogion y BBC eu bod nhw am redeg stori’n dweud “na fyddai argymhellion y panel arbenigol y dylid sefydlu Awdurdod Darlledu i Gymru yn cael eu derbyn”.

Dywedodd swyddog y BBC nad oedden nhw’n gwybod “o le ddaeth y wybodaeth honno”, ac na fu “unrhyw newid i’n safbwynt”, sef eu bod nhw’n “ystyried canfyddiadau adroddiad y panel arbenigol”.

Cafodd stori’r BBC ei chyhoeddi’r diwrnod canlynol.

“Mae’r e-byst i ni eu derbyn trwy’r cais rhyddid gwybodaeth yn bwrw amheuaeth am ddilysrwydd stori’r BBC,” meddai Mirain Owen, Is-gadeirydd Grŵp Dyfodol Digidol Cymdeithas yr Iaith.

“Mae’n amlwg yn beryglus os oes gennych chi ddarlledwr fel y BBC sy’n lobïo’n breifat yn erbyn cam polisi, ac ar yr un pryd yn rhedeg stori ddi-sail ar ei llwyfannau sy’n cefnogi eu safbwynt lobïo.

“Mae’r holl wybodaeth yma’n codi cwestiynau ehangach am holl rym a dylanwad y BBC dros y cyfryngau yng Nghymru a sut maen nhw’n eu defnyddio.”

‘Dim bwriad’

“Mae Llywodraeth Cymru bellach o blaid datganoli pwerau darlledu a chyfathrebu i’r Senedd,” meddai Mirain Owen wedyn.

“Mae’n hen bryd i’r darlledwyr dderbyn mai dyna yw barn mwyafrif pobol Cymru, ac yn lle ceisio atal hyn rhag digwydd, cydweithio er mwyn llunio fframwaith newydd sy’n bodloni anghenion pobol Cymru.

“Mae’r llythyr gan bennaeth y BBC yng Nghymru yn mynd y tu hwnt i amddiffyn y corff yn unig, ac yn codi cwestiynau dilys am eu didueddrwydd.

“Siawns eu bod nhw’n gwybod bod unrhyw lythyr sy’n ceisio tanseilio’r adroddiad yn gyfystyr ag ymdrech i atal sefydlu’r Awdurdod Cyfathrebu i Gymru, awdurdod sydd ei angen fel cam cyntaf tuag at benderfynu ar faterion darlledu a chyfathrebu yng Nghymru ar gyfer Cymru.”

Honiadau “anwir”

Yn ôl llefarydd ar ran BBC Cymru, “mae’r honiadau hyn yn anwir”.

“Dydi Cyfarwyddwr BBC Cymru heb gynnig unrhyw safbwynt ar ddatganoli darlledu nac ar sefydlu Awdurdod Darlledu Cysgodol,” meddai.

“Pwrpas y llythyr gan Rhuanedd Richards at y Dirprwy Weinidog oedd cywiro a rhoi cyd-destun i rai o’r gosodiadau ffeithiol oedd wedi eu cyhoeddi yn yr adroddiad.

“Mae’r BBC hefyd yn sefyll yn gadarn wrth y stori newyddion sydd yn ddiduedd, yn gywir a chanddi ffynonellau da.”