Mae Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, wedi croesawu dyfarniad y Goruchaf Lys ar bolisi Rwanda dadleuol Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig.

Roedd y llywodraeth yn awyddus i ddanfon unrhyw ffoaduriaid fyddai’n cyrraedd gwledydd Prydain i Rwanda, gan ddweud bod angen cam o’r fath er mwyn mynd i’r afael â’r cychod bychain sy’n cyrraedd y lan.

Ond roedd pryderon y gallen nhw gael eu hanfon o Rwanda yn ôl i’w mamwlad.

Yn ôl y Goruchaf Lys, byddai dychwelyd ffoaduriaid i’w mamwlad yn torri rheolau hawliau dynol y Deyrnas Unedig a chyfreithiau rhyngwladol tebyg.

Nododd y dyfarniad record wael Rwanda o ran hawliau dynol, a’u triniaeth o ffoaduriaid yn y gorffennol.

Cafodd y polisi ei gyhoeddi fis Ebrill y llynedd yn wreiddiol, a hynny pan oedd Boris Johnson yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, ond fe fu’n destun achos cyfreithiol ers hynny.

Fe wnaeth y Llys Apêl atal awyrennau rhag gadael y Deyrnas Unedig am Rwanda fis Mehefin y llynedd, a chytunodd y Goruchaf Lys nad oedd asesiad o’r peryglon wedi’i gwblhau.

Dydy’r dyfarniad ddim yn atal Llywodraeth y Deyrnas Unedig rhag anfon ffoaduriaid i wlad arall yn lle Rwanda, ond mae’n codi amheuon am y polisi yn ei gyfanrwydd.

Mae mynd i’r afael â mewnfudwyr anghyfreithlon yn un o brif bolisïau’r Prif Weinidog Rishi Sunak, ac mae’n cael ei ystyried yn fater fydd yn allweddol i’w obeithion o ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.

‘Rhaid i’r Llywodraeth Dorïaidd ei roi o’r neilltu’

“Mae’r Goruchaf Lys yn barnu bod y polisi #Rwanda ffiaidd, annynol yn anghyfreithlon,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Cynllun A credadwy fyddai cyflwyno system loches deg, urddasol, nid un o greulondeb a chasineb.

“Rhaid i’r Llywodraeth Dorïaidd ei roi o’r neilltu rŵan, a chanolbwyntio ar fynd i’r afael â phroblemau cronig sy’n wynebu pobol yn y Deyrnas Unedig.”

Ychwanega Delyth Jewell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, fod y “penderfyniad yn ei hanfod yn fuddugoliaeth i dosturi a gweddeidd-dra sylfaenol o ran sut rydyn ni’n trin ein cyd-ddyn”.