Mae’r cynnydd tuag at gyrraedd targedau iaith Cymraeg 2050 yn “anfoddhaol iawn”, yn ôl Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.
Daw hyn wedi i Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, gyhoeddi adroddiad blynyddol Cymraeg 2050.
Yn dilyn dadl yn y Senedd, mae’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o beryglu’r posibilrwydd o gyrraedd y targed.
“Mae’n duedd sy’n peri gofid bod nifer y siaradwyr Cymraeg, yn yr ugain mlynedd cyn datganoli, wedi cynyddu ond mae’r niferoedd bellach wedi gostwng yn y ddau ddegawd ers hynny,” meddai Samuel Kurtz, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar y Gymraeg.
“Mae’n hanfodol fod y dirywiad hwn yn cael ei wrthdroi.
“Mae gwneud y Gymraeg yn hygyrch i bawb yn y gymuned, yn gymdeithasol neu’n broffesiynol yn allweddol i ddatblygu siaradwyr hyderus.
“Ni ddylai neb gael ei geryddu am golli treiglad neu ynganiad. Yn hytrach, dylem gymeradwyo’r rhai sy’n rhoi cynnig ar y Gymraeg.
“Mae’n iaith sy’n perthyn i ni gyd, felly mae’n bwysig nawr bod yr offer ar gael i sicrhau bod targedau 2050 yn cael eu cyrraedd.”
Cwymp mewn siaradwyr rhwng pump a phymtheg oed
Yn ôl Jeremy Miles, mae canlyniadau’r Cyfrifiad yn “rhoi arwydd clir” i’r Llywodraeth o’r meysydd mae gofyn iddyn nhw ganolbwyntio arnyn nhw yn y dyfodol.
“Mae dau faes amlwg yn mynnu sylw, sef y cwymp yn nifer y plant pump i bymtheg oed sy’n gallu siarad Cymraeg,” meddai.
“Mae hyn yn dangos bod angen cryfhau ein dull o addysgu’r Gymraeg yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg yn ogystal ag ehangu addysg cyfrwng Cymraeg.”
Mae’n awgrymu mai cynyddu cyfran yr addysg Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yw’r ffordd ymlaen er mwyn mynd i’r afael â’r gwymp.
Fodd bynnag, yn ôl Heledd Fychan, Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru, mae’r dystiolaeth yn adrodd stori wahanol.
“Mi ydych chi wedi ychwanegu yn eich datganiad heddiw o ran ehangu addysg cyfrwng Cymraeg hefyd, ond mi fyddwn i’n hoffi gofyn pa dystiolaeth sydd gennych chi sy’n dangos bod cynyddu faint o Gymraeg sy’n cael ei ddysgu mewn ysgolion Saesneg yn fwy effeithiol na chynyddu’r nifer sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg,” meddai.
“Rydyn ni’n sôn am barhau i sicrhau bod pobol ddim yn gallu cael mynediad at addysg Gymraeg.
“Felly beth ydy’r dystiolaeth yna, mai cynyddu mewn addysg Saesneg ydy’r ffordd i greu siaradwyr Cymraeg?
“Mae’r holl dystiolaeth, i fi, yn dangos mai addysg cyfrwng Cymraeg a throchi sydd yn gweithio.”
Dywed fod yn rhaid mynd yn bellach na defnyddio “geiriau cynnes” bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, a gweithredu ar yr addewid.
“Mae hynny’n golygu rhoi cyfle cyfartal, lle bynnag y byddwch chi’n byw yng Nghymru, i allu derbyn addysg Gymraeg, ond hefyd defnyddio’r Gymraeg,” meddai.
Ysgolion Saesneg yn “ddewis eilradd”
Mae Heini Gruffudd yn cytuno mai rhagor o ysgolion cyfrwng Cymraeg sydd eu hangen er mwyn adfer unrhyw obaith o gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr.
“Y peth hollol amlwg yn fan hyn yw bod ysgolion Saesneg yn methu rhoi i ddisgyblion yr awyrgylch Cymraeg holl gynhwysfawr ar draws pob agwedd o fywyd ysgol,” meddai wrth golwg360.
“Hynny yw, nid yn unig gwersi cyfrwng Cymraeg ond gweithgareddau ysgol, a dyna sy’n hollol hanfodol i unrhyw ddisgybl sy’n dod at y Gymraeg yn blentyn, a dyna fantais enfawr ysgolion Cymraeg.
“Dyna sut mae disgyblion yn dod i siarad y Gymraeg a meistroli’r iaith yn effeithiol.
“Dewis eilradd iawn yn anffodus yw ysgolion Saesneg o gymharu ag ysgolion Cymraeg o ran cyflwyno’r iaith.”
‘Y cyfan yn niwl’
Ond hyd yn oed pe bai Llywodraeth Cymru yn cynyddu eu targed ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg, dydy Heini Gruffudd ddim yn hyderus y bydd y targedau’n cael eu cyrraedd.
“Does dim unrhyw ffydd gyda ni’n anffodus,” meddai wedyn.
“Tua thri mis yn ôl, fuon nhw’n amcangyfrif y nifer gobeithiol o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
“Hyd yn oed yn derbyn bod y Llywodraeth yn sefydlu mwy na’r nifer presennol sydd gyda nhw mewn golwg o ysgolion Cymraeg, fydd nifer y siaradwyr Cymraeg ddim yn uwch na rhyw 600,000 neu 700,000 erbyn 2050.
“Dydw i ddim wedi cael ymateb boddhaol gan Jeremy Miles i hynny.
“Y cyfan ddywedodd e wrthym ni oedd nad ydyn nhw eto wedi penderfynu ar y dull o fesur siaradwyr Cymraeg.
“Felly mae’r cyfan ar hyn o bryd yn y niwl ac yn anfoddhaol iawn.”
Strategaeth Llywodraeth Cymru
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg er mwyn nodi sut maen nhw’n bwriadu ehangu addysg cyfrwng Cymraeg dros y deng mlynedd nesaf.
“Mae’r cynlluniau’n cynnwys 23 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg newydd ac ehangu 25 o rai sydd eisoes yn bodoli,” meddai llefarydd.
“Rhwng mis Mawrth a mis Mehefin eleni, fe wnaethom ymgynghori ar gynigion fydd yn sail i Fil Addysg Gymraeg.
“Bydd y Bil yn cymryd camau i alluogi holl ddisgyblion Cymru i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus drwy’r system addysg statudol.”