Mae Aelod Seneddol Llafur y Rhondda’n dweud y byddai anwybydu’r gyfraith o ran cynllun Rwanda Llywodraeth y Deyrnas Unedig “yn beryglus ac yn groes i werthoedd Prydeinig”.
Mae Chris Bryant wedi ymateb i sylwadau dadleuol gan Lee Anderson, dirprwy gadeirydd y Ceidwadwyr, sy’n awgrymu y dylai’r Llywodraeth “anwybyddu” dyfarniad y Goruchaf Lys, sy’n dweud bod y cynllun dadleuol i ddanfon ffoaduriaid o’r Deyrnas Unedig i Rwanda’n anghyfreithlon.
Roedd y llywodraeth yn awyddus i ddanfon unrhyw ffoaduriaid fyddai’n cyrraedd gwledydd Prydain i Rwanda, gan ddweud bod angen cam o’r fath er mwyn mynd i’r afael â’r cychod bychain sy’n cyrraedd y lan.
Ond roedd pryderon y gallen nhw gael eu hanfon o Rwanda yn ôl i’w mamwlad.
Yn ôl y Goruchaf Lys, byddai dychwelyd ffoaduriaid i’w mamwlad yn torri rheolau hawliau dynol y Deyrnas Unedig a chyfreithiau rhyngwladol tebyg.
Nododd y dyfarniad record wael Rwanda o ran hawliau dynol, a’u triniaeth o ffoaduriaid yn y gorffennol.
Cafodd y polisi ei gyhoeddi fis Ebrill y llynedd yn wreiddiol, a hynny pan oedd Boris Johnson yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, ond fe fu’n destun achos cyfreithiol ers hynny.
Fe wnaeth y Llys Apêl atal awyrennau rhag gadael y Deyrnas Unedig am Rwanda fis Mehefin y llynedd, a chytunodd y Goruchaf Lys nad oedd asesiad o’r peryglon wedi’i gwblhau.
Dydy’r dyfarniad ddim yn atal Llywodraeth y Deyrnas Unedig rhag anfon ffoaduriaid i wlad arall yn lle Rwanda, ond mae’n codi amheuon am y polisi yn ei gyfanrwydd.
Mae mynd i’r afael â mewnfudwyr anghyfreithlon yn un o brif bolisïau’r Prif Weinidog Rishi Sunak, ac mae’n cael ei ystyried yn fater fydd yn allweddol i’w obeithion o ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.
‘Wedi diflasu’
Ond mae Lee Anderson yn galw am “anwybyddu’r gyfraith” a bwrw ymlaen â’u bwriad gwreiddiol.
“Mae’n ddiwrnod du i bobol Brydeinig,” meddai.
“Dylen ni jyst gael yr awyrennau yn yr awyr nawr a’u hanfon nhw i Rwanda.
“Mae pobol wedi diflasu yn y wlad hon.
“Maen nhw wedi diflasu â chael eu twyllo a thalu eu trethi i bobol sydd heb hawl i fod yma ac sy’n droseddwyr.
“Mae angen i’r llywodraeth ddangos arweiniad a’u hanfon nhw’n ôl yr un diwrnod.”
Wrth ymateb i’r awgrym y byddai hynny’n torri’r gyfraith, gofynnodd “Pa gyfraith?”
“Mae’r bobol hyn yn dod yma ac yn torri’r gyfraith,” meddai.
“Does gan y bobol hyn ddim hawl i fod yma.
“Dw i’n credu y dylen ni anwybyddu’r gyfraith a’u hanfon nhw’n ôl yr un diwrnod.”