Fe fu cynnydd o 210% ers y llynedd yn nifer y carcharorion sy’n cysgu ar y stryd, yn ôl ymchwil newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.
Golyga hyn fod 332 o’r bobol sy’n cael eu rheoli gan wasanaethau prawf Cymru’n cysgu ar y strydoedd.
Mae hyn yn gyfystyr ag oddeutu un ym mhob 14 o garcharorion gafodd eu rhyddhau yng Nghymru yn 2022/23, o gymharu ag un ym mhob 42 yn ystod y flwyddyn flaenorol.
Yn ôl Dr Robert Jones, prif awdur yr adroddiad Carchardai yng Nghymru, mae diffyg data cyfiawnder ar gyfer Cymru’n unig yn parhau i fod yn rhwystr sylweddol wrth geisio gwella dealltwriaeth a gwella’r sefyllfa.
Dywed fod yr asiantaethau sy’n gyfrifol am gyfiawnder yng Nghymru’n “esgeuluso’r cyfle i gymryd Cymru a’r cyd-destun Cymreig o ddifrif”.
Dychwelyd at broblemau cyn y pandemig
Ar hyn o bryd, dydy’r system gyfiawnder yng Nghymru heb ei datganoli’n llawn.
“Bedair blynedd ers i ni ddarganfod am y tro cyntaf mai Cymru sydd â’r gyfradd carcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop, nid oes unrhyw ymdrech wedi’i wneud ynglŷn â’r canfyddiad brawychus hwn,” meddai Dr Robert Jones.
“Rydyn ni’n gweld nifer cynyddol o bobol yn gadael y carchar ac yn cysgu ar y stryd, ac er bod arwyddion o rai gwelliannau mewn lefelau diogelwch ledled Cymru, mae’r data diweddaraf ar gyfer 2023 yn dangos dychwelyd at y problemau gyrhaeddodd y lefelau uchaf erioed cyn y pandemig.”
Fe wnaeth yr ymchwil ganfod hefyd fod ychydig dros un ym mhob pump o fenywod gafodd eu hanfon i’r carchar gan lysoedd yng Nghymru y llynedd wedi cael dedfryd o fis neu lai.
Mae dedfrydau byr yn aml yn cael effaith negyddol ar garcharorion, gyda sawl un yn colli eu cartrefi os nad ydyn nhw’n gallu talu eu rhent, er eu bod nhw ond yn y carchar am gyfnodau byr iawn.
‘Cymorth ar gael i bawb’
Yn ôl Melanie Phillips o elusen y Bont,
Er bod rhai mesurau yn eu lle i helpu’r rheiny sy’n cael dedfrydau byr i ddal eu gafael ar eu cartrefi, mae eraill yn dal yn mynd yn ddigartref yn y pen draw.
“Mae lot o bobol yn colli eu tai ac ati, ac yn gorfod dechrau o’r dechrau,” meddai wrth golwg360.
“Felly mae rhai pobol yn gorfod declare-io eu hunain yn ddigartref, ac yn cael eu rhoi mewn hostel neu B&B a chychwyn yr holl broses eto.
“Mae pob sefyllfa yn wahanol.”
Er hynny, dywed fod y cynnydd o 210% yn syndod iddi.
“Pan wyt ti yn y carchar, mae yna gefnogaeth yna i chdi, felly os wyt ti’n gwybod pan wyt ti’n dod allan fod gen ti ddim cartref i fynd iddo, mae yna staff yn y carchar i dy helpu di efo hynny,” meddai.
“Cyn gynted ag y mae’r adran tai yn cael y dyddiad rwyt ti’n cael dy ryddhau o’r carchar, maen nhw wedyn yn dy roi di fel blaenoriaeth oherwydd dy fod di’n dod allan o’r carchar heb unlle i fynd.
“Felly i’r ffigwr godi – dydw i ddim yn siŵr iawn pam fysa hynny – achos mae’r gefnogaeth yna i bawb sy’n dod allan o’r carchar.
“Ond os fyset ti’n dod allan o’r carchar heddiw a dweud dy fod di’n cysgu yn nhŷ mam heno a mynd i shelter digartrefedd yfory, faset ti ddim yn flaenoriaeth wedyn, achos byse ti’n dangos bod gen ti rywle i fynd.
“Felly efallai bod hynny’n rywbeth i wneud efo’r ffigwr.”
Newid yn y dull cofnodi
Dywed Dr Robert Jones fod angen newidiadau sylweddol er mwyn gallu mynd i’r afael â’r canfyddiadau.
“Dylai’r canfyddiadau hyn atgoffa swyddogion y llywodraeth o’r angen dybryd am newidiadau aruthrol i gyfeiriad dedfrydu a pholisi cosbi yng Nghymru yn y dyfodol,” meddai.
Fodd bynnag, dywed llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod y cynnydd yn y ffigyrau o ganlyniad i newidiadau yn y ffordd y caiff y data ei gofnodi.
“Ond rydyn ni’n gwybod bod tai sefydlog yn helpu cyn-droseddwyr i aros yn syth a chul a dyna pam rydyn ni’n buddsoddi miliynau i ddarparu llety dros dro i’r rhai sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref ar ôl cael eu rhyddhau – gan eu hatal rhag mynd yn ôl i fywyd o droseddu a chadw diogelwch y cyhoedd,” meddai.