Funudau’n unig barodd y drafodaeth am statws Catalaneg, Basgeg a Galiseg yn yr Undeb Ewropeaidd heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 15).

Roedd y drafodaeth ar agenda’r cyfarfod rhwng y gweinidogion Materion Ewropeaidd.

Yn ôl ffynhonnell, dim ond tua dwy funud barodd yr eitem, gan mai dim ond Pascual Navarro, Ysgrifennydd Gwladol Sbaen ar yr Undeb Ewropeaidd, oedd wedi siarad.

Eglurodd e “gynnig addasiedig” Sbaen, sy’n ceisio atal ieithoedd lleiafrifol yn Ewrop rhag defnyddio achos y tair iaith fel cynsail i alw am statws swyddogol.

Wnaeth neb o unrhyw wlad arall leisio barn ar amodau sy’n mynnu bod rhaid bod gan yr ieithoedd “gydnabyddiaeth gyfansoddiadol” a bod yn “ieithoedd gweithredol” yn senedd genedlaethol y wlad dan sylw, ac mae’n rhaid eu bod nhw wedi’u defnyddio ers deng mlynedd gan sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’n rhaid hefyd fod cytundebau wedi’u cyfieithu i’r ieithoedd hynny o’r blaen, a bod y wlad sy’n ceisio statws swyddogol yn talu’r gost.

Fe wnaeth y tair iaith fodloni’r holl ofynion hyn, ond dydy Comisiwn Ewrop ddim wedi cyhoeddi adroddiad costau hyd yn hyn.

Anfodlonrwydd

Ar drothwy’r cyfarfod, mynegodd nifer o gynrychiolwyr yn yr Undeb Ewropeaidd eu hanfodlonrwydd mai diwrnod yn unig gawson nhw i graffu ar ddogfennau perthnasol.

Doedd dim adroddiad cyfreithiol nac ariannol ymhlith y dogfennau hynny chwaith.

Yn ôl cynrychiolydd o’r Ffindir, fe wnaethon nhw dderbyn y ddogfen ddiwrnod ymlaen llaw, a honno yn Sbaeneg.

Dyma’r trydydd tro i gyfarfod fwriadu trafod y mater, yn dilyn cyfarfodydd blaenorol ym mis Medi a mis Hydref.