Mae angen i bobol iau sy’n wynebu risg sylweddol o deimlo effeithiau clefydau’r gaeaf gael brechlyn atgyfnerthu Covid-19 a brechlyn ffliw, yn ôl Prif Swyddog Meddygol Cymru.

Mae pryderon mai ychydig dros draen yn unig o’r rheiny sy’n gymwys sydd wedi derbyn eu brechiad atgyfnerthu Covid-19 hyd yn hyn.

Er bod y ffigurau ar gyfer y rhai dros 65 oed sydd wedi’u brechu yn eithaf cyson, mae pryderon bod nifer y bobol iau sydd o fewn grwpiau risg clinigol sydd wedi trefnu i dderbyn eu brechlyn yn isel iawn.

“Brechu yw’r ffordd fwyaf diogel a mwyaf effeithiol o amddiffyn y rhai sy’n agored iawn i niwed yn sgil firysau anadlol, neu’r rhai sydd mewn perygl o gael eu derbyn i’r ysbyty,” meddai Dr Frank Atherton.

“Dyma pam rwyf am annog pawb sy’n gymwys i gael brechlyn Covid-19 a’r ffliw am ddim i fanteisio ar y cynnig hwn.

“Cael y brechlyn yw’r peth gorau y gall pawb ei wneud i amddiffyn eu hunain a helpu i atal ein Gwasanaeth Iechyd rhag cael ei lethu y gaeaf hwn.”

Yr “amddiffyniad gorau” dros y gaeaf

Mae 59.9% o bobol dros 65 mlwydd oed wedi derbyn brechlyn ers cychwyn rhaglen frechu’r gaeaf ar Fedi 11.

Fodd bynnag, dim ond 26.6% o’r rhai rhwng chwe mis a 64 mlwydd oed yn y categori risg ychwanegol sydd wedi cael eu brechu.

Mae Dr Christopher Johnson, epidemiolegydd Ymgynghorol a Phennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi ategu’r un neges mai brechu yw’r amddiffyniad gorau yn ystod y gaeaf.

“Yn y Deyrnas Unedig, mae pob brechlyn wedi bod drwy broses drylwyr i gymeradwyo ei ddiogelwch,” meddai.

“Mae firysau anadlol yn ffynnu yn y gaeaf, gyda phlant ifanc iawn, pobol â chyflyrau iechyd a’r henoed yn eithriadol o agored i niwed.

“Wrth i’r tywydd oeri, mae’n haws i firysau fel y ffliw ledaenu.

“Does neb eisiau bod yn sâl dros y Nadolig a’r flwyddyn newydd, felly mae’n werth cael eich brechlyn.”

Mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sydd ar y rheng flaen hefyd yn cael eu hannog i gael eu brechu.

Dywed Prif Fferyllydd Imiwneiddio Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mai brechu staff yw un o’r ffyrdd gorau i amddiffyn y gwasanaethau iechyd, gan ei fod yn sicrhau eu bod yn gallu parhau i weithio dros y gaeaf.