Cynhadledd Cymdeithas yr Iaith: Yr Hawl i Dai Digonol

Mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal ym Mae Caedydd er mwyn trafod y posibiliadau ar gyfer y sefyllfa dai yng Nghymru

gan Catrin Lewis

Mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal eu cynhadledd Yr Hawl i Dai Digonol: Beth sy’n Bosibl yn adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd heddiw (16 Tachwedd).

Bwriad y gynhadledd yw trafod sut mae mynd i’r afael a’r prinder tai fforddiadwy sy’n wynebu cymunedau ledled Cymru.

O dan gynigion Cymdeithas yr Iaith am Ddeddf Eiddo mae saith nod o sut byddai’r Gymdeithas yn awgrymu mynd i’r afael a’r broblem gynyddol amlwg.

Bydd siaradwyr gwadd gan gynnwys Clarissa Corbisiero, Cyfarwyddydd Polisi a Materion Allanol Community Housing Cymru; Mabon ap Gwynfor, Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd; Alicja Zalesinska o Tai Pawb a Walis George o Gymdeithas yr Iaith yn trafod y posibiliadau i’r sefyllfa dai yng Nghymru.

Mwy o ddiweddariadau i ddilyn.

17:46

Daeth y gynhadledd i ben gyda geiriau clo gan Mabon ap Gwynfor, Walis George ac Alicja Zalesinska.

Maent yn gobeithio bydd cynigion y Gymdeithas yn cael eu hystyried yn y papur gwyn fydd yn cael ei ryddhau yn fuan.

15:03

Mae angen “cyd-greu atebion gyda chymunedau lleol” meddai Alicja Zalesinska.

“Mae’r datrysiadau hynny a’r atebion hynny yn bodoli.”

Dywedodd bod angen gweithio ar atebion ar raddfa fach a datblygu’r rheiny sy’n llwyddo ar raddfa fwy.

Nododd bod hefyd angen sicrhau tai addasadwy megis rhai sy’n addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn, er enghraifft.

14:47

Dylai Cymru fod yn gweithio oddi fewn fframwaith tai digonol y Cenhedloedd Unedig, medd Mabon ap Gwynfor.

Dywedodd yr hoffai weld cychwyn ar y gweithredu erbyn diwedd tymor y Senedd hon.

“Os oedd yn argyfwng ddwy flynedd yn ôl, mae’n gatastroffi erbyn hyn,” meddai.

Dywedodd Alicja Zalesinska o Tai Pawb eu bod wedi’u siomi gyda chynnwys y papur gwyrdd ar y ddeddf tai digonol.

“Mae ein partneriaeth wedi bod yn siomedig iawn gyda chynnwys y papur gwyrdd,” meddai.

“Nid yw’r hawl i dai yn cael ei ystyried yn y papur hwnnw fel hawl mewn gwirionedd.

“Mae’n cael ei awgrymu ei fod yn geirios ar ben y gacen a dweud y gwir.”

Tra bod y papur gwyrdd yn amlinellu syniadau ar sut i weithredu, bwriad papur gwyn yw amlinellu sut bydd y Llywodraeth yn gweithredu.

Felly, dywedodd bod datblygu’r papur gwyn yn “holl bwysig.”

14:31

Atgyfnerthodd Mabon ap Gwynfor y pwynt bod angen i dai fod yn rhan o’r gymuned gan bwysleisio bod hynny’n “rhan canolog o’r cysyniad o dai digonol.” 

Dywedodd ei fod wedi bod yn Vienna dwy flynedd yn ôl, rhywle ble maent wedi bod yn datblygu tai cymdeithasol ers 1923.

Yn ôl Mabon, mae llai o stigma o amgylch tai cymdeithasol yno.

Dywedodd bod llawer o’r rheiny sy’n byw mewn tai cymdeithasol yn gallu dal tram o’u stepen ddrws.

Manylodd bod cyswllt amlwg rhwng cartref a chymuned o fewn cyfadeiladau tai cymdeithasol a welodd yn Vienna.

Dywedodd bod deintydd a gofal iechyd a meithrinfa o fewn y cyfadeilad [complex].

“Mae’n gymuned yn ei hun,” meddai.

Soniodd hefyd am y broblem gynyddol amlwg o ddigartrefedd yng Nghymru.

Dywedodd mai’r angen am ddeddf tai digonol sydd wrth wraidd y broblem.

“Y gwir ydi, os basen ni’n cael deddf mewn lle am yr angen am dai digonol buasai hynny i gyd yn disgyn i mewn i le,” meddai.

14:20

IMG_2086

Mae John Griffiths, Aelod Llafur o’r Senedd dros Ddwyrain Casnewydd, yn Gadeirydd ar Bwyllgor Tai a Llywodraeth Leol y Senedd.

Dywedodd bod y pwyllgor o blaid cefnogi bil am dai digonol.

“Mae’n angen sylfaenol ac nid ydym yn agos at ble y mae angen inni fod yng Nghymru ar hyn o bryd o ran cyrraedd anghenion tai,” meddai.

Yn ôl John Griffiths, mae angen gwneud mwy i sicrhau bod y mathau cywir o dai yn cael eu codi.

“Mae’n angen sylfaenol. Nid oes gennym ddigon o gartrefi ac nid oes gennym y mathau cywir o gartrefi yn y lleoedd cywir,” meddai.

Dywedodd bod angen edrych ar y broblem “mewn ffordd fwy cyflawn.”

13:18

Mae’n rhaid trawsnewid yr holl farchnad dai er mwyn lleddfu’r pwysau ar gymunedau, medd Walis George o Gymdeithas yr Iaith.

Dywedodd bod cymunedau wedi colli hyder yn y system cynllunio ac yn “ddrwgdybus” o awdurdodau tai.

Mae’n dweud bod cynlluniau i adeiladu 18 o dai fforddiadwy ym Motwnnog ym Mhen Llŷn ond bod nifer yn gwrthwynebu oherwydd diffyg ymgynghori, diffyg eglurdeb a phryderon am yr effaith ar yr iaith.

Dylai cynlluniau tai gael eu llunio o gwmpas anghenion unigol cymunedau lleol, meddai.

Dywedodd dylai’r cyfrifoldeb fod mewn dwylo awdurdodau lleol pan ddaw i osod yr amodau ar farchnadoedd tai lleol er mwyn rheoli pwy sy’n gallu prynu a gwerthu cartrefi yno.

Mae’n glir bod y system tai presennol wedi torri, meddai.

12:24

Dara Turnbull

Dara Turnbull ger y Senedd

Dywedodd Dara Turnbull, Cydlynydd Ymchwil Housing Europe, bod tai yn cael eu gweld yn gynyddol fel rhywbeth mae pobol “eisiau ac nid eu hangen.”

Er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng tai, dywedodd bod angen yn gyntaf deall pam bod tai yn wag a deall sut gallwn ni ddod â phobol yn ôl i’r adeiladau yma.

Mae angen meddwl am atebion penodol ar gyfer Cymru er mwyn mynd i’r afael â’r problemau sy’n wynebu’r wlad mewn ffordd effeithlon, meddai.

Dywedodd bod angen hefyd cadw anghenion cymunedau mewn golwg a sicrhau bod yr anghenion yma hefyd yn cael eu cyrraedd wrth geisio mynd i’r afael â’r argyfwng tai.

Mae’n rhaid sicrhau tai o ansawdd uchel os yw pobol am godi eu prisiau rhent yn uchel, medd Dara Turnbull.

Dywedodd bod pobol ifanc yn cael eu gwthio allan o’u cymunedau yn broblem amlwg ar draws Ewrop.

Yn Nenmarc maent wedi adeiladu tai’n benodol ar gyfer pobol ifanc er mwyn diwallu eu hanghenogion nhw.

Mae’n awgrymu dylai Cymru ystyried camau tebyg.

11:42

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, deilydd portffolio Cartrefi ar Gabinet Gyngor Sir Gâr, bod poblogaeth y sir wedi cynyddu o tua 162,000 ar ddechrau’r 90au i 188,000 rŵan.

Mae hyn yn gynnydd o tua 16%.

Yn y cyfamser, mae’r cyflenwad o dai cyngor wedi cwympo.

Yn ôl Linda Evans, mae mwy o ddigartrefedd yn Sir Gâr – ac yng Nghymru – nag erioed.

Ar hyn o bryd mae 143 o bobol yn byw mewn llety dros dro, mae hynny’n cynnwys 37 o deuluoedd.

Mae 17% o blant Cymru sy’n byw mewn tlodi yn dod o aelwyd ble mae’r ddau riant yn gweithio.

11:34

“Y rhai ar yr incwm isaf sy’n dwyn y pwysau mwyaf – yn gyntaf ac yn galetaf,” meddai Clarissa Corbisiero.

Dywedodd mai bwyd, dodrefn ac ynni oedd y prif feysydd oedd wedi annog pobol i ofyn am gymorth.

Yn ôl Clarissa Corbisiero dydy hi “erioed wedi bod yn anoddach” i adeiladu tai.

Daw hyn wrth i gostau adeiladu tai gynyddu o 36% rhwng 2014 a 2022.

Mae hi’n dweud bod cynyddu’r lwfans tai lleol yn “hanfodol” er mwyn helpu i denantiaid aros mewn cartrefi rhent preifat.

11:01

Dros y dyddiau diwethaf mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn cynnal taith Deddf Eiddo ledled Cymru er mwyn trafod y problemau gyda thrigolion y cymunedau sydd wedi eu heffeithio.

Yn ystod y daith codwyd pryderon gan drigolion ym Mhenygroes, Llansannan, Trefriw, Aberystwyth a Blaenau Ffestiniog – i enwi llond llaw.

Dywedodd trigolion Trefriw bod cynlluniau i godi 9 fflat gosod gwyliau mewn hen gapel, tra bod tai cyngor wedi eu troi yn dai haf yn Aberffraw.

Yn ôl trigolion, mae’r ardal wedi dod yn anial dros fisoedd y gaeaf.