Mae penodiadau Cabinet Rishi Sunak yn “codi cwestiynau ynglŷn â’i farn o”, yn ôl Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon.
Ddoe (dydd Mawrth, Hydref 25), fe addawodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig y byddai’n penodi Cabinet llawn “holl dalent” y Blaid Geidwadol yn San Steffan.
Fodd bynnag, mae Hywel Williams yn amheus iawn o nifer o’r Aelodau Seneddol sydd wedi cael eu penodi.
“Mae yna lot o hen wynebau a phobol oedd heb ennill eu plwyf y tro diwethaf yna,” meddai wrth golwg360.
“Yr un sy’n sefyll allan ydi’r Ysgrifennydd Cartref [Suella Braverman], wrth gwrs.
“Mae’n rhyfeddol ei bod wedi’i chaniatáu i ddychwelyd i’r Cabinet ddim ond chwe diwrnod ar ôl iddi gael ei diswyddo.
“Fe wnaeth hi dorri rheolau diogelwch, neu security breach, sy’n amlwg ei fod o’n ddifrifol iawn.
“Os wnaeth hi o drwy gamgymeriad, dw i ddim yn meddwl ei bod hi’n ffit i fod yn Ysgrifennydd Cartref.
“Ac os wnaeth hi o’n fwriadol, dw i’n meddwl bod angen cymryd camau cryfach yn ei herbyn hi.
“Ond beth mae hyn yn edrych yn debyg iddo fo o leiaf ydi bod y Prif Weinidog eisiau sicrhau cefnogaeth ei ffrindiau hi ar adain dde fwyaf eithafol y Blaid Geidwadol.
“Yn ôl y sôn, roedd o wedi crefu arni hi nifer o weithiau dros y ffôn i ymuno â’r Cabinet cyn iddi hi gydsynio i hynny, felly mae yna gwestiwn ynghylch beth yn union ddaru o addo iddi hi i’w chael hi’n ôl yn y Cabinet.
“Mae hynny wedyn yn codi cwestiynau ynglŷn â’i farn o.”
‘Talent yn brin’
Fodd bynnag, dydy hi ddim yn syndod gweld nifer o’r un wynebau yng Nghabinet Rishi Sunak, yn ôl Hywel Williams, sy’n dweud bod talent yn brin yn y Blaid Geidwadol.
“Mae’r Llywodraeth yma wedi bod i mewn ers 12 mlynedd, a threfn arferol pethau ydi fod pobol dalentog yn dueddol o fynd yn brin,” meddai.
“Mae llawer o’r bobol fyddai rhywun wedi disgwyl eu gweld yn llenwi’r swyddi uchaf un o fewn y Cabinet wedi gadael y senedd – pobol fel Dominic Grieve, oedd yn uchel ei barch er mod i ddim yn cytuno â fo, pobol fel David Gauke fasa wedi gallu bod yn Ganghellor o dan drefn arall.
“Mae’r rheini wedi ymadael a Thŷ’r Cyffredin, a dweud y gwir, oherwydd y math o Lywodraeth oedd Boris Johnson yn ei rhedeg.”
‘Plaid ranedig’
Fyddai Hywel Williams yn “synnu dim” pe bai’r Blaid Geidwadol yn disgyn i mewn i wrthryfel arall o dan arweinyddiaeth Rishi Sunak.
“Mae hwnnw yn gwestiwn sylfaenol gan fod y blaid bellach mor ranedig,” meddai.
“Mae gan Sunak hen ddigon i’w wneud efo Wcráin, Covid a Brexit heb sôn am gadw ei blaid ei hun at ei gilydd.
“Mae’n siŵr y gwnân nhw drio peidio rhannu cyn yr etholiad swyddogol nesaf yn 2024, lle y byddan nhw’n cael eu taflu allan efo colledion mawr iawn, baswn i’n meddwl.
“Ond pwy a ŵyr? Faswn i’n synnu dim ’tasan nhw’n torri allan i ryfela mewnol eto.”
Edrych ymlaen at “graffu” David TC Davies
Dywed Hywel Williams ei fod yn edrych ymlaen at graffu ar David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru.
Aelod Seneddol Mynwy gafodd ei ddewis i olynu Syr Robert Buckland, wnaeth ymddiswyddo ar ôl i Rishi Sunak ddod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.
Fe fu David TC Davies yn Is-Weinidog yn Swyddfa Cymru ers 2019, ac fe gefnogodd e Rishi Sunak yn y ras arweinyddol yn erbyn Liz Truss, oedd wedi ymddiswyddo ar ôl chwe wythnos yn y swydd.
“Yn gyhoeddus, mae o wedi dweud lot o bethau gwirion a ffiaidd,” meddai Hywel Williams.
“Gobeithio rŵan ei fod o yn y Cabinet y bydd o’n rheoli rhyw gymaint ar beth mae o’n ddweud.
“Dw i ddim yn amau y bydd o’n gweithio’n galed, mae o’n ddyn brwdfrydig iawn.
“Ond dw i ddim yn cytuno gyda’i safbwyntiau o, felly fe fyddwn ni’n ei holi fo’n agos iawn yng Nghwestiynau Cymru ac yn ei graffu o mewn ffyrdd eraill.”
Croesawu’r penodiad
Fodd bynnag, cafodd penodiad David TC Davies ei groesawu gan arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies.
“Dw i’n arbennig o falch o weld David TC Davies yn dychwelyd i Swyddfa Cymru, bellach yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru,” meddai.
“Bydd David yn amhrisiadwy wrth sicrhau bod Cymru wrth galon Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn enwedig wrth dynnu ar ei brofiad fel Aelod Cynulliad cyn dod yn Aelod Seneddol.
“Dw i’n gwybod y bydd e’n parhau i fod yn bencampwr gwych ar gyfer ein gwlad nawr o amgylch bwrdd y Cabinet.”