Wrth drafod Bil Hunaniaeth ac Iaith (Gogledd Iwerddon) yn San Steffan, mae Aelod Seneddol Gogledd Dorset – a gafodd ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd – wedi galw am ddathlu gwahaniaethau diwylliannol ac ieithyddol y Deyrnas Unedig.
Roedd Simon Hoare yn siarad yn ystod dadl ar y Bil yn San Steffan, gan annog y DUP i roi’r gorau i’w gwrthwynebiad i’r ddeddfwriaeth.
Cafodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol ei eni, ei fagu a’i addysgu yng Nghaerdydd ac fe gyfeiriodd at golli’r cyfle i ddysgu’r Gymraeg cyn symud i ffwrdd i fynd i’r brifysgol yn Rhydychen.
Roedd yn dadlau nad yw’r Bil yn un sy’n bleidiol, gan alw am ystyried y Bil o safbwynt iaith, diwylliant ac amrywiaeth o fewn y Deyrnas Unedig.
‘Rhan o fy jig-so diwylliannol ar goll’
Yn ddi-Gymraeg, dywedodd Simon Hoare ei fod e’n teimlo bod methu â siarad Cymraeg yn golygu bod “rhan o fy jig-so diwylliannol ar goll”.
“Cymro ydw i a fynychodd ysgol uwchradd Gymreig, ond ar adeg pan oedd Cyngor Sir De Morgannwg yn dweud bod y Gymraeg yn iaith oedd yn marw,” meddai.
“Fe wnaethon ni ei dysgu hi am flwyddyn ac yna’i gollwng hi.
“Pan ddychwelais i i Gymru, oedd wedi gweld adfywiad o ran yr iaith Gymraeg, dw i’n teimlo fy mod i’n dymuno gallu cymryd rhan yn y sgyrsiau hynny.
“Dw i’n teimlo fel bod rhan o fy jig-so diwylliannol ar goll.
“Rhan o’n cryfder mawr ni yn y Deyrnas Unedig yw’r diwylliannau, yr ieithoedd, y gerddoriaeth, y llenyddiaeth, y farddoniaeth, yr holl bethau hynny sy’n ein gwneud ni’n rym geowleidyddol cryf a deniadol yn y byd.
“Does dim rhaid bod yn unffurf er mwyn bod yn unoliaethwr, a dylen ni ddathlu’r gwahaniaethau hynny.”