Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhybuddio fod problemau tai yng Nghymru yn “waeth nag erioed”.

Daw hyn wrth iddyn nhw lansio’u cynigion ar gyfer Deddf Eiddo ym Mae Caerdydd heddiw (dydd Mercher, Hydref 26).

Dywed y Gymdeithas eu bod yn “disgwyl am ymateb” gan Lywodraeth Cymru.

Ymysg cynigion y Gymdeithas mae:

  • Grymuso cymunedau a mentrau tai fforddiadwy a arweinir gan y gymuned i brynu a phrydlesu tir ac eiddo at ddibenion cymunedol.
  • Hwyluso benthyciadau llog isel i bobl leol a mentrau a arweinir gan y gymuned gan fanc cymunedol.
  • Rheoli rhenti landlordiaid preifat a landlordiaid cymunedol i sicrhau eu bod yn fforddiadwy i denantiaid ar incwm is na’r canolrif.
  • Gosod disgwyliadau ar Awdurdodau Lleol i greu Asesiad Cymunedol ar y cyd â chynghorau cymuned unigol a llunio Strategaeth Tai Lleol ar sail yr Asesiad Cymunedol er mwyn ateb gofynion tai gwirioneddol.

“Problemau tai yn waeth nag erioed”

“Er ein bod ni’n ymgyrchu dros Ddeddf Eiddo ers yr 80’au mae problemau tai yn waeth nag erioed a natur ein cymunedau wedi newid oherwydd hynny,” meddai Elin Hywel, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith.

“Gan fod y Llywodraeth wedi ymrwymo yn y Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru i baratoi papur gwyn ar Ddeddf Eiddo, ac wedi dechrau ar bapur gwyrdd, roedd hi’n teimlo’n amserol i ni ddiweddaru’n cynigion ar gyfer Deddf Eiddo a rhoi’r pwyslais ar rymuso cymunedau.”Mae gor-bwylais ar y farchnad rydd yn golygu bod tai yn cael eu trin fel ased yn hytrach na chartref.

“Mae ein Deddf Eiddo yn glir mai bod yn gartref yw prif ddiben tŷ a dylai alluogi cartrefi i gael eu defnyddio er lles cymunedau ac yn unol ag anghenion y gymuned honno.”

“Deddf Eiddo cyflawn yn ateb mwy effeithiol”

Ychwanegodd Jeff Smith, ls-gadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith: “Yn ddiweddar mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi grymoedd newydd i gynghorau lleol, sydd yn ymddangos yn beth da ar yr wyneb, ond mae’n creu gwaith sylweddol i gynghorau, a does dim sôn am gyllid ar gyfer y gwaith hynny.

“Ac mae sawl peth yn y Cynllun Tai a Chymunedau a gyhoeddwyd rhai wythnosau nesaf yn wirfoddol ac yn gamau bach iawn.”Yn hytrach na gwneud ambell beth yma ac acw sy’n creu mwy o waith yn y pendraw byddai Deddf Eiddo cyflawn yn ateb mwy effeithiol.”