Mae angen adeiladu mwy o dai i fynd i’r afael â’r argyfwng tai a rhestrau aros, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

Mae’r blaid wedi mynegi pryderon ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod bron i 90,000 o deuluoedd yn disgwyl am dai cymdeithasol – sy’n gyfystyr â 200,000 o bobol, ac yn gynnydd o 40% ers 2018 pan oedd 65,000 o deuluoedd yn aros am dŷ.

Yn ôl adroddiad gan y BBC, mae teuluoedd yn “cael eu gorfodi” i ystyried gadael Cymru yn sgil prinder tai, ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod y sefyllfa yn “warth cenedlaethol”.

Cafodd 1,232 o dai newydd eu codi yng Nghymru rhwng Ebrill a Mehefin, yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, sydd 27% yn llai na’r un chwarter yn 2019.

Targed Llywodraeth Cymru yw codi tua 7,400 o dai newydd y flwyddyn rhwng 2019-20 a 2023-24.

‘Peri pryder’

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, mae’n edrych fel bod nifer y tai sy’n cael eu codi wedi gostwng eleni a bod Llywodraeth Cymru’n gadael i hynny ddigwydd.

“Mae’r ystadegau hyn yn peri pryder mawr,” meddai Jane Dodds, arweinydd y blaid yng Nghymru.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn galch ein bod ni wedi gallu defnyddio ein dylanwad i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy erbyn 2021 yn ystod cyfnod y Llywodraeth ddiwethaf.

“Fodd bynnag, mae hi’n edrych fel bod Llafur yn gadael i’r targedau hynny ddianc o’u gafael.

“Mae pobol ledled Cymru’n haeddu lle i’w alw’n gartref ac ni ddylai hynny fod yn nod anghyraeddadwy.

“Rydyn ni’n gweld cenedlaethau o bobol, yn enwedig pobol ifanc sydd ddim yn gallu symud allan o dŷ eu rhieni neu eu perthnasau ac yn methu cael bywyd annibynnol eu hunain.

“Hynny heb sôn am nifer y bobol sy’n cael eu gorfodi i adael eu bro.

“Mae polisïau fel trethu ail gartrefi i’w croesawu, ond dydyn nhw ddim yn ateb yr holl broblem.

“Er mwyn curo’r argyfwng tai, rydyn ni angen gweld mwy o dai yn cael eu hadeiladu ac rydyn ni angen gweld Llywodraeth Cymru’n gweithio’n agos ag awdurdodau lleol er mwyn creu polisïau sy’n caniatáu i dai (rhai cyhoeddus a phreifat) gael eu hadeiladu.”

‘Cenedl noddfa?’

“Gyda bron i 90,000 o aelwydydd yn aros am dai cyhoeddus, sut all gweinidog Llafur ddweud ein bod ni’n genedl noddfa?” meddai Janet Finch-Saunders, llefarydd tai’r Ceidwadwyr Cymreig.

“Y gwir yw fod teuluoedd gweithgar yn talu’r pris am argyfwng tai Llafur tra bod gweinidogion Llafur yn gwastraffu £100m ar gael mwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd.

“Rhaid i weinidogion Llafur stopio osgoi cyfrifoldeb am ddau ddegawd o ddiffyg gweithredu, rhoi diwedd ar brosiectau er budd eu hunain a chanolbwyntio ar adeiladu tai i bobol yng Nghymru sydd wirioneddol eu hangen.”