'Mae gen i ffrindiau Mwslemaidd, wyddoch chi...'
Cip tafod-yn-y-boch olaf Hefin Jones eleni ar straeon yr wythnos a fu …
Trump a’r pennau bach
Fe ddechreuwn ni gyda dyn y foment. Wedi i’r SNP ei dynnu o’i rôl llysgennad busnes i’r wlad a roddwyd iddo gan Lafur, daeth mwy o newyddion Caledonaidd drwg i Donald Trump wrth iddo golli ei apêl yn erbyn tyrbinau gwynt ar y môr fyddai i’w gweld o’i gwrs golff ger Aberdeen. “Foolish, small minded and parochial” oedd ei farn am lywodraeth yr Alban, neu farn The Trump Organization fel mae’n galw ei hun. “History will judge those involved unfavourably” bygythiodd, yn amlwg yn bwriadu ei ysgrifennu.
‘Mae gen i ffrindiau Mwslemaidd…’
Ond gwell hwyliau a chyd-dynnu adref wedi ei addewid i atal pob Mwslim rhag dod i’r wlad. “Many Muslim friends of mine are in agreement with me. They say, ‘Donald, you brought something up to the fore that is so brilliant and so fantastic’…I have many friends who are Muslims. They’re phenomenal people. They are so happy at what I’m doing” dagreuodd yn llon.
Delwedd ddrud
Swydd heriol, rhaid cyfaddef, ond difyr nodi fod rhai gweithwyr yn y sector gyhoeddus yn fwy lwcus na’i gilydd pan ddaw at law llym y Canghellor. Bu i Thea Rogers dderbyn codiad o 42% yn ei chyflog, sydd bellach yn £98,000. Ei gwaith ym mheirianwaith y gwasanaeth sifil? Hyhi yw Ymgynghorydd Delwedd neb llai na George Osborne. Gwerth bob ceiniog hefyd.
Taclo’r terfysgwyr
Buddugoliaeth i addysg a chanllawiau ‘Prevent’ y llywodraeth. Yn trafod fforestydd, crybwyllodd disgybl yn Hackney y ffenomena o ‘eco-derfysgwyr’. Yn amlwg wedi darllen y pamffled yn drylwyr neidiodd yr athro at y ffôn coch. Y diwrnod canlynol daeth dau swyddog a chymryd y bachgen 14 oed o’r dosbarth i’w holi. Daeth ei esboniad a’r ateb craff ‘You’re a tree hugger are you?’, a phan atebodd efo ‘what?’ roedd hi’n amser cofio eu hyfforddiant . ‘Are you affiliated with ISIS?’ a chwestiynau cyffelyb am yr awr. Mae am siarad llai o flaen yr athro penodol o hyn ymlaen.
“The Prevent duty is about protecting those who might be vulnerable from the poisonous influence of extremism, and stop them being drawn into terrorism. Schools play a vital role in protecting pupils from the risks of radicalisation. It is right and important that these issues are discussed in an open and trusting environment” cyferbyniodd y Gweinidog Diogelwch John Hayes.
Streic y Post
A buddugoliaeth i newyddiaduraeth wrth i Trinity Mirror esbonio i staff y Daily Post mai eu pwrpas mewn bywyd yw ennyn cymaint o ymwelwyr i’w straeon ar y we ac y bo modd. Pendraw’r ymwthiad yw bod eu newyddiadurwyr yn mynd ar streic. Fydd, o leiaf, yn ei gwneud hi’n fwy tebygol i ddarllenwyr selog y Daily Post glicio’r wefan gan na fydd copi yn eu siop leol.
Boddi dan doriadau
£374,000 yn llai i Gyngor Llyfrau Cymru, ond na phoener canys daeth y newyddion ar yr un dydd a datganiad llon Michael Fallon am wariant cyhoeddus cyfrifol. “We are going to see a bigger Royal Navy” perlewygodd wrth ddatgan cytundeb £13.5miliwn am 60 dingi rwber (go iawn) i gael eu hadeiladu gan bwy arall ond BAE Systems. Ai ‘adeiladu’ dingis rwber byddai rhywun yntau eu chwythu? Ta waeth, rydym oll yn saffach a beth yw diwylliant i gymharu ag iechyd.
Dim pris ar waith elusennol
Drama ym Mhrestatyn wrth i’r actor Bruce Jones (Les Battersby yn Coronation Street, ondefe) fenthyg ei wyneb i gynorthwyo achos da. “I’ve never known a bike like it. It was so fast” esboniodd, wedi pedlo beic gwerth £2000 i’w fedd. Roedd elusenwyr seicleddol yn digwydd pasio Bruce a Johnny Vegas oedd yn ffilmio rhyw ffilm, a rhaid oedd cael llun i helpu achos.
I ffwrdd a Johnny fwyaf sydyn heb ofyn ar y beic fenthycodd yntau, a Bruce ar ei ôl yn syth i leoliad y ddamwain. “He shouldn’t have let me on his bike” meddai pan holwyd pam nad yw fyth wedi talu am drwsio’r deurodur ar ôl addo hynny ar y pryd. “Everybody knows I’ve raised millions for charity”.
Moddion Cymreig
Gofalus oedd y Daily Express i briflythrennu’r gair pwysig yn eu pennawd ‘Syrian refugees arriving in Wales will be given lessons in WELSH’. Rhag ofn i’w darllenwyr fethu sylwi ar elfen anhygoel y stori. Oddi tan y llun hanfodol o arwydd gorsaf drên Llanfairpwllgwyngyllayyb, ymysg y sylwadau disgwyliedig-athrylithgar oedd ‘wait till these migrants want to teach their own children in their mother tongue! Then the Welsh will get a taste of their own medicine!‘ Pa ffisig yr ydym wedi ei ddosbarthu, gadawodd ucannotmakeitup i ni ddatrys.
Arriva-derci? Go brin
Wythnos dda i adran cysylltiadau cyhoeddus hoff gwmni teithwyr Cymru, Arriva. Yn gyntaf roedd rhaid delio â’r ymholiadau wedi iddynt ddiswyddo dyn oedd wedi gyrru bysus am 30 mlynedd am stopio am dri munud i ymweld â’r tŷ bach, ei feddyginiaeth yn achosi llifeiriant gor-reolaidd.
Yna daeth eu gwasanaeth cymdeithasu cyfryngol yn fywiog wrth i’w trên benderfynu pasio stop yn gyfan gwbl yng Nghaerdydd i adennill munudau, gan adael y rhai oedd eisiau ymadael yn bellach o’u tai nac oeddent o gychwyn eu siwrnai. Yn anffodus i Arriva un ohonynt oedd un o drydarwyr mwyaf blin ein cenedl, a ddefnyddiodd ei awren-ddwy o gerdded i esbonio i’r cwmni eu ffaeleddau’n gyhoeddus. ‘Please don’t swear’ oedd eu geiriau cyntaf, ac fe aeth hi’n waeth o fanno.
Mike eisiau gwely cynnar
Yn pwyllgora ar ddyfodol y BBC daeth Mike Hedges, Aelod Cynulliad Dwyrain Abertawe, â’r cwestiwn tyngedfennol i’r bwrdd. “The biggest complaint I get about the BBC is all about Match of the Day and it’s about the fact that we expect Swansea to be the last game on Match of the Day each week” cwynodd wrth Rona Fairhead, Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC.
Esboniodd Rona nad oedd hyn yn ei grym, felly aeth Mike â’i gwyn ymlaen i Tony Hall, y Cyfarwyddwr Cyffredinol. Gallai ychydig o ymchwil fod wedi arbed ei amser, gan mai’r pedwar tîm sydd wedi cael eu dangos olaf fwyaf y tymor hwn yw Everton, Stoke, Tottenham a West Brom. Nid Abertawe, Mike.
Diweddar oedd y golofn yr wythnos yma oherwydd problemau cyswllt band llydan Llŷn. Nadolig Llawen.
Bydd Wythnos Hefin Jones yn dychwelyd yn y flwyddyn newydd.