Chloe Smith
Mae Heddlu Gwent wedi gwneud apêl am wybodaeth ynglŷn â lleoliad merch 15 oed o Gaerffili sydd ar goll ers y penwythnos.

Mae Chloe Smith wedi bod ar goll o’i chartref yn Abertridwr, Caerffili ers dydd Sadwrn Rhagfyr 19.

Mae Heddlu Gwent yn apelio am unrhyw wybodaeth am ei lleoliad, gan nodi fod ganddi gysylltiadau ag ardal Casnewydd.

Caiff ei disgrifio fel merch â chroen gwyn, 5”2’ o daldra a chanddi wallt hir, tywyll.

Fe’i gwelwyd diwethaf yn gwisgo jîns glas, siaced ledr du ac esgidiau rhedeg Nike Air Max.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am leoliad Chloe Smith gysylltu â’r heddlu ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod: 462 19/12/15