Dywed y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, ei bod hi’n “bryd rhoi cyfle i rywun arall” i ymgymryd ar rôl.
Wrth siarad â golwg360, mae hi wedi rhannu rhai o’i huchafbwyntiau a’r heriau o fod wedi bod yn arweinydd ar y Cyngor ers 2012 – a hithau’n rhoi’r gorau iddi yn ddiweddarach eleni.
Fe gyhoeddodd hi’r wythnos ddiwethaf ei bod hi’n camu i lawr fel arweinydd Grŵp Plaid Cymru’r Cyngor, ac felly fel arweinydd y Cyngor llawn.
Daeth hi’n aelod o’r Cyngor i ddechrau ym 1999 a chynrychioli ward Ceulanamaesmawr, sy’n cynnwys pentrefi Tal-y-bont a Bont-goch.
Mae hi wedi bod yn arweinydd ar Grŵp y Blaid ers 2007, pan oedden nhw’n wrthblaid yn y sir.
Yn dilyn yr etholiadau lleol yn 2012, ffurfiodd Plaid Cymru glymblaid gyda chynghorwyr Llafur ac annibynnol, a daeth Ellen ap Gwynn yn arweinydd ar y Cyngor.
Hi oedd y fenyw gyntaf a’r aelod Plaid Cymru cyntaf i ddod yn arweinydd ar yr awdurdod lleol.
‘Rhoi fy lle i dalent ifanc’
“Dw i wedi gwneud dau dymor fel arweinydd yma yng Ngheredigion ers 2012, a dw i wedi bod yn gynghorydd ers 1999,” meddai wedyn.
“Ro’n i’n teimlo’i bod hi’n bryd i roi fy lle i dalent ifanc sy’n dod i fyny drwy’r Cyngor.
“Mae deng mlynedd yn gyfnod digon hir, a dw i’n credu mod i wedi cyflawni rhywfaint o’r pethau oeddwn i mo’yn cyflawni.
“Mae’n bryd rhoi cyfle i rywun arall.”
Llenwi esgidiau
Y Cynghorydd Bryan Davies fydd yn olynu Ellen ap Gwynn yn Arweinydd Grŵp y Blaid yn yr ymgyrch etholiadol nesaf, a phe baen nhw’n cael mwyafrif, fe fyddai’n arwain y Cabinet hefyd.
Mae’r Cynghorydd Davies wedi bod yn cynrychioli ward Llanarth ar Gyngor Sir Ceredigion ers 2012.
Ffermwr yw e o ddydd i ddydd, ac yn un o lywodraethwyr ysgolion cynradd Llanarth a Bro Sion Cwilt.
“Mae o’n gynghorydd sydd â’i draed ar y ddaear,” meddai Ellen ap Gwynn.
“Yn ymarferol iawn ei agwedd, ond hefyd yn deall Ceredigion i’r dim.
“Mae o wedi bod yn cadeirio’r pwyllgor rheoli datblygu, a’i fys ar y pyls ynglŷn â beth sy’n digwydd ar draws y sir, a’r problemau sy’n codi yn sgil polisïau cynllunio hefyd.
“Erbyn hyn, mae o hefyd yn cadeirio’r pwyllgor craffu cymunedau iachach, sydd yn cynnwys gwasanaethau cymdeithasol, iechyd yr amgylchedd, a’r mathau hynny o bolisiau, felly mae o’n wybyddus iawn o’r meysydd hynny.
“Mae o hefyd wedi bod yn weithgar ar y pwyllgor craffu addysg, ac yn llywodraethwr ysgol, felly mae ei fys ar y pyls yn y maes hwnnw hefyd.
“Mae ganddo’r profiad i ddod yn arweinydd Grŵp, ac i’w harwain i mewn i’r ymgyrch etholiadol ym mis Mai.”
Uchafbwyntiau
Wrth edrych yn ôl ar rai o’i chyflawniadau mwyaf fel arweinydd, dywedodd Ellen ap Gwynn “efallai bod hwnna’n rhywbeth i rywun arall bwyso a mesur!”
Ond mae hi yn nodi un uchafbwynt personol.
“Yn ystod y deng mlynedd, yr ymgyrch i sicrhau bod canolbarth Cymru’n cael ei gydnabod fel ardal oedd angen buddsoddiad ariannol i wella ein sefyllfa datblygu economaidd ni,” meddai.
“Pan glywon ni gyntaf am y ‘bargeinion dinesig’ a’r ‘bargeinion twf’ hyn, dim ond Caerdydd, Abertawe a’r gogledd oedd yn cael eu crybwyll.
“Fe ofynnais i’r cwestiwn – ‘beth oedd y polisi ynglŷn â chanolbarth Cymru?’ – achos oedden ni’n cael ein heithrio yn ôl pob golwg ar y pryd.
“Edwina Hart oedd y gweinidog ar y pryd, ac fe ofynnodd hi i fi osod partneriaeth canolbarth Cymru i fyny er mwyn i ni weithio tuag at hynny.
“O’r diwedd ym mis Ionawr eleni, fe lwyddon ni i gau pen y mwdwl o ran bod y cynllun busnes portffolio wedi cael ei dderbyn gan y ddwy Lywodraeth, a’n bod ni wedi cael addewid o £110m o fuddsoddiad.
“Hwnna i fi yw un o’r uchafbwyntiau.”
‘Rydyn ni yma o hyd’
Adfer o’r pandemig fydd un o’r heriau mwyaf i’r Cyngor nesaf yng Ngheredigion, ac i gyrraedd yr anghenion ychwanegol hynny yn y gyllideb, fe fydd trethi’r cyngor yn cynyddu o 2.5%.
Er hynny, doedd y codiad ddim cymaint â’r 4.75% oedd yn cael ei gynnig i ddechrau, wedi i’r cyngor dderbyn setliad ariannol gan y Llywodraeth.
Dywed Ellen ap Gwynn eu bod nhw wedi gorfod delio â heriau “anferthol” toriadau ymhell cyn y pandemig.
“Wrth lwc, rydyn ni wedi cael setliad llawer gwell na rydyn ni wedi cael yn y blynyddoedd a fu,” meddai.
“I ddweud y gwir, mae heriau ariannol tywydd a llifogydd, yn ogystal â’r pandemig wedi bod yn ein hwynebu ni drwy gydol y ddeng mlynedd ddiwethaf.
“Un o’r heriau pennaf ges i ar ôl cychwyn yn y rôl oedd llifogydd yn digwydd yng ngogledd Ceredigion, ac yna cael gwybod ein bod ni’n gorfod ymdopi efo toriad o £13m o fewn ychydig fisoedd.
“Mae’n syndod i fi, ond mae’n glod i aelodau a holl staff y Cyngor ein bod ni wedi dod trwyddi yn rhyfeddol o dda ar y cyfan.
“Er bod gennym ni £50m yn llai mewn cyllid ag oedd gennym ni ddeng mlynedd yn ôl, rydyn ni yma o hyd, ac mae pobol Ceredigion yn dal i gael y gwasanaeth maen nhw ei angen.”
Cyngor gan y cynghorydd
O ran y to ifanc o gynghorwyr sy’n sefyll am y tro cyntaf i fod yn aelodau, mae Ellen ap Gwynn yn eu cynghori nhw i “gymryd pethau gam wrth gam” pe baen nhw’n cael eu hethol, “a pheidio meddwl eu bod nhw am newid y byd yn syth!”
“Mae angen iddyn nhw gymryd amser i ymgyfarwyddo efo ffordd y Cyngor o weithio, ac i ddysgu lle maen nhw’n gallu gwneud eu cyfraniad pennaf,” meddai wedyn.