Mae arolwg yn awgrymu y byddai 58% o bobol Cymru yn hoffi gweld Boris Johnson yn rhoi’r gorau i fod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Mae ymchwil gan ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn dangos bod poblogrwydd Boris Johnson wedi gostwng dros y misoedd diwethaf.

Yn ôl arolwg Barn Cymru, dywed 67% mai ychydig o ffydd sydd ganddyn nhw yn llywodraeth Boris Johnson.

O gymharu, dywed 54% eu bod nhw’n ymddiried yn Llywodraeth Cymru.

Er hynny, mae’r gefnogaeth tuag at Boris Johnson ymysg pleidleiswyr Ceidwadol yng Nghymru’n parhau i fod yn gryf, gyda dim ond 10% ohonyn nhw eisiau iddo adael ei swydd.

Y ‘Boris bounce‘ wedi dod i ben

Ychydig o newid fu ers yr arolwg diwethaf ym mis Rhagfyr o ran bwriadau pleidleisio pobol Cymru.

Mae Llafur ar y blaen o 15 pwynt, a phe bai hynny’n cael ei adlewyrchu mewn etholiad, byddai’r Ceidwadwyr yn colli’r rhan fwyaf o’r seddi y gwnaethon nhw eu cipio yn yr etholiad cyffredinol yn 2019.

Bydd ffiniau’r etholaethau yn wahanol erbyn yr etholiad nesaf, gyda 32 etholaeth yng Nghymru yn hytrach na 40.

Er nad oes yna newid mawr ym mwriadau pleidleisio pobol, dywed Dr Jac Larner o Ganolfan Lywodraethiant Cymru, fod yna ddau bwynt i’w nodi wedi’r pôl.

“I ddechrau, mae’r ‘Boris bounce’ mae’r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi’i fwynhau dan arweinyddiaeth Johnson wedi dod i ben,” meddai.

“Mae lefelau cefnogaeth y Ceidwadwyr wedi bod yn debyg iawn i’r hyn oedden nhw ar ddiwedd cyfnod Theresa May yn y ddau bôl piniwn diwethaf.

“Mae sgandalau partïon yn Downing Street, a’r argraff nad yw’r Ceidwadwyr wedi gwneud yn dda wrth ymateb i’r pandemig, yn golygu bod y blaid wedi colli’r gefnogaeth y gwnaethon nhw ei hennill yng Nghymru ar ôl Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd yn 2016.

“Yn ail, mae lefel y gefnogaeth tuag at Lafur yng Nghymru wedi bod ar eu huchaf mewn dau bôl ar ôl ei gilydd ers hanner olaf 2018.

“Tra bod normalrwydd a chysondeb Llafur yn arwain mewn polau piniwn yn golygu na fydd neb yn rhoi llawer o feddwl i hyn, mae cael plaid yn arwain ers 23 mlynedd ac yn parhau i fod gymaint ar y blaen yn rhyfeddol.”

‘Colli hyder’

Dywed Owain Phillips, gohebydd gwleidyddol ITV Cymru, eu bod nhw’n falch o “adnewyddu’r pôl”.

Mae Barn Cymru yn bartneriaeth rhwng ITV Cymru, Canolfan Lywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd a YouGov, sydd wedi cael ei hail-frandio’n ddiweddar.

“Mae ITV Cymru Wales yn falch o roi bywyd newydd i’r bartneriaeth hon gyda Chanolfan Lywodraethiant Cymru a Phrifysgol Cymru gan ei fod yn cynnig poliau rheolaidd a mewnolwg i agweddau pobol Cymru ar faterion gwleidyddol a materion amserol eraill.

“Mae’r ymosodiad ar yr Wcráin yn bwrw cysgod dros y pôl hwn ond mae’r pôl yn dangos bod Boris Johnson wedi colli hyder y rhan fwyaf o bobol.”

Fe wnaeth YouGov holi sampl gynrychioliadwy o 1,086 o bleidleiswyr dros 16 oed yng Nghymru rhwng Chwefror 25 a Mawrth 1.