Morgan Owen
Ddylai pobl ddim disgwyl i bob Mwslim ymddiheuro am erchyllterau ISIS, yn ôl Morgan Owen
Yn sgil yr ymosodiadau diweddaraf ym Mharis cafwyd ymateb disgwyliedig onid anesgor gan nifer o bobol yng Nghymru, a nifer o Gymry yn eu plith― sef beirniadaeth lem iawn ar Fwslemiaid.
Hynny yw, datganwyd gan rai fod rheidrwydd ar bob Mwslim i gollfarnu’r digwyddiadau mewn modd na fyddai’n cael ei fynnu o berson nad yw’n Fwslim.
Dyma sefyllfa anffodus iawn y mae’n rhaid ei herio; dyma sefyllfa sydd yn porthi casineb ac yn gwthio’r byd tuag at ragor o wrthryfela ac sydd, ymhellach, yn deillio o anwybodaeth sylfaenol o’r berthynas rhwng crefydd a hunaniaeth.
Neb yn nabod pawb
Fel y gymuned Gymraeg ehangach, mae cymuned grefyddol ehangach (pa grefydd bynnag y bo) yn ei hanfod yn gymuned ‘ddychmygol’, am ei fod yn amhosib i aelodau’r gymuned nabod pob aelod arall, fel y nodwyd gan Benedict Anderson (gweler ‘Imagined Communities’).
Mae delfryd, neu haniaeth, felly, yn uno pobl nad ydynt yn gydnabod i’w gilydd.
Nid yw hynny’n bychanu’r gymuned nac yn ei gwneud yn llai dilys mewn unrhyw ffordd. Ond, golyga yn ymarferol nad yw’n gymuned homogenaidd, unffurf.
Erys y cysylltiad rhwng yr aelodau yn gryf, boed yn seiliedig ar iaith neu grefydd neu beth bynnag, ond y tu hwnt i’r un peth sydd yn eu huno mae cryn dipyn o amrywiaeth.
Dyna felly sut y mae hunaniaethau ieithyddol neu grefyddol yn gallu bodoli ar draws ffiniau mewn nifer o lefydd tra gwahanol.
Ymylu pobl
Er nad yw’r Gymraeg yn wir ryngwladol megis crefyddau mawrion y byd, mae iddi hithau gymuned ddychmygedig yn ôl y diffiniad uchod.
O’r herwydd, byddai mynnu i bob siaradwr Cymraeg ymddiheuro am weithred ysgeler gan un siaradwr yn hollol hurt, am fod siaradwr Cymraeg o Fynwy ar y cyfan yn annhebygol o nabod siaradwyr Cymraeg yng Nghaergybi, heb sôn am bob lle arall rhyngddynt!
Yn yr un modd, mae disgwyl i Fwslemiaid ym Mhrydain gollfarnu’r digwyddiadau ym Mharis am y rheswm eu bod yn Fwslemiaid yn unig yn hynod wirion.
Mae’r fath agwedd yn ymylu pobl ac yn eu gwneud yn fwy tebygol i fynd i’w cregyn, fel petai, ac ymneilltuo o’r gymdeithas ehangach, sef yr union beth y mae’r asgell dde a phobol anwybodus yn cyhuddo lleiafrifoedd o’i wneud.
Uniaethu â Mwslemiaid
Disgwylir gan rai i Fwslemiaid ‘gymathu’ yn llwyr, beth bynnag mae hynny’n ei olygu, gan hefyd ddisgwyl iddynt ymateb i ddigwyddiadau terfysgol fel un cyfangorff Mwslemaidd, er iddynt, fel arall, gael eu collfarnu am ymneilltuo ar sail eu crefydd.
Gwelir felly fod yr agweddau hyn yn hollol afresymol.
Byddai rhywun yn disgwyl i siaradwyr Cymraeg ddeall yn well y duedd gan rai i drin lleiafrifoedd fel un cyfangorff unffurf, a disgwyl iddynt gymathu yn llwyr ar un llaw gan hefyd aros ar wahân ar y llaw arall, sefyllfa lle na ellir ennill. Boed i’r anwybodaeth hon ddiflannu.
Mae Morgan Owen yn astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.