Rhan o ganol Paris o Dwr Eiffel (Armin Hornung CCA3.0)
Fydd protestwyr amgylcheddol ddim yn cael hawl i orymdeithio ar strydoedd Paris cyn nac ar ôl yr Uwch-Gynhadledd fawr ryngwladol ar y pwnc.
Wrth i Arlywydd Ffrainc gyhoeddi y bydd stad o argyfwng y wlad yn parhau am dri mis arall, fe ddaeth y newyddion hefyd fod y protestiadau wedi eu gwahardd.
Daw hyn wrth i’r awdurdodau yn Ffrainc barhau i chwilio am rai o’r bobol oedd y tu cefn i’r ymosodiadau a laddodd 129 o bobol ym Mharis nos Wener.
Ac mae’r senedd yno yn trafod cryfhau’r pwerau sydd gan yr awdurdodau o dan y stad argyfwng.
Disgwyl cannoedd o filoedd
Y disgwyl oedd y byddai cannoedd o filoedd o bobol yn gorymdeithio wythnos i ddydd Sul wrth i arweinwyr y byd gasglu ar ddechrau pythefnos o drafod.
Yn awr, mae’r trefnwyr yn apelio ar i bobol mewn dinasoedd a gwledydd eraill gynnal protestiadau yn eu lle.
Roedd gwrthdystiad mawr arall wedi’i drefnu ar gyfer diwedd y gynhadledd sydd i fod i arwain at arwyddo cytundeb rhyngwladol newydd i atal cynhesu byd-eang.
Ysgolion – ‘arhoswch gartref’
Mae penaethiaid ysgolion yng Nghymru a gwledydd eraill wedi cael cyngor hefyd i beidio â mynd â thripiau plant i Baris rhwng hyn a dydd Sul.
Mae’r awdurdodau yn Ffrainc eisoes wedi gwahardd pob math o ymweliadau gan ysgolion yno ac mae’r Swyddfa Dramor yn Llundain yn annog ysgolion yng ngwledydd Prydain i aros gartre’ hefyd.