Kayleigh Haywood (Llun trwy law Leicestershire Police)
Mae swyddogion yr heddlu sy’n edrych am ferch 15 oed sydd wedi bod ar goll, wedi dod o hyd i gorff.

Doedd neb wedi gweld Kayleigh Haywood o bentref Measham yn Swydd Gaerlŷr ers 6pm ddydd Gwener 13 Tachwedd.

Dywedodd Heddlu Swydd Gaerlŷr eu bod wedi dod o hyd i’r corff tua deg neithiwr mewn cae ger pentref Ibstock – rhyw bum milltir o gartref Kayleigh Haywood.

Er nad yw’r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol, mae teulu’r ferch wedi cael gwybod.

Holi dau ddyn

Yn Ibstock yr oedd Kayleigh Haywood wedi cael ei gweld ddiwetha’, ar ôl i’w thad ei gollwng y tu allan i ysgol.

Yn ôl rhai adroddiadau papur newydd, roedd hi wedi dweud wrth ffrindiau ei bod yn mynd i gwrdd â dyn yr oedd wedi ei gyfarfod trwy’r wefan gymdeithasol Facebook.

Mae dau ddyn 27 a 28 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio ac maen nhw’n cael eu cadw yn y ddalfa ar hyn o bryd.