Pwy sgwennodd araith Theresa May tybed?
Dyma gip unigryw yn ôl ar ambell un o ddigwyddiadau mwyaf cofiadwy’r dyddiau diwethaf …
Araith gyrrwr tacsi
Doedd ond un lle i fod wythnos yma. Felly, yn gyntaf, awn i Fanceinion (lle nad oes ganddynt yr un cynghorydd nac aelod seneddol) a chynhadledd y Torïaid. Wrth i’r cyfryngau yn unfryd esbonio i ni fod y Torïaid yn symud i’r gagendor anferth yn y canol y mae’r lwnatic Corbyn wedi hwylio Llafur ohono dilynodd Theresa May ei sefylliad trawiadol gydag araith yn syth o’i gyrrwr tacsi’n mynnu nad yw neb o dramor erioed wedi cyfrannu affliw o ddim i Brydain. Ymlaen i’r canol a hwy …
Un peth mae Cameron yn ei wybod
‘Of the thousands of words said about Jeremy Corbyn you only need to know one thing. He thinks the death of Osama Bin Laden is a tragedy. My friends, we cannot let this man inflict his security-threatening, terrorist-loving, British-hating ideology on the country we love‘ bloeddiodd eu harweinydd yn fuddugoliaethus. Wel, hollol David. Er, geiriau Corbyn oedd mai trychineb oedd y ffaith na ddygwyd Bin Laden i gyfraith, ond ta waeth am beth felly.
Heb anghofio’r toriadau
Ac mewn cyfarfod yn y Gynhadledd lwyddiannus ym Manceinion bu i’r grŵp the Taxpayers Alliance alw ar y llywodraeth i dorri budd-daliadau i’r henoed ymhellach. ‘Efallai fod hyn ychydig yn morbid`, dechreuont yn addawol, ‘ond torrwch y budd-daliadau i gyd rŵan, gan mai’r gwir yw na fydd llawer ohonynt yn fyw erbyn yr etholiad nesaf, a bydd y gweddill wedi anghofio erbyn hynny.‘
Llywodraeth yn torri gwynt
Wrth i rai undebau wrthwynebu safbwynt yr eithafwr Jeremy Corbyn i ddiddymu’r rheolydd anghysbell £100biliwn newydd ar gyfer lansio Trident tua Putin, ar y sail y bydd ‘swyddi yn cael eu colli’, gallai rhywun esbonio i’r sosialwyr mawr fod hynny’n fom o bres cyhoeddus am y 250 swydd sy’n Faslane yn edrych ar ôl y taflegryn, i gymharu er enghraifft â’r 10,000 a gollir yng Ngogledd Iwerddon wrth i’r llywodraeth ddiddymu cymorthdaliadau egni adnewyddol.
Rod yn ymladd ei gornel
Mae’r fyddin Brydeinig yn ymweld ag ysgolion Cymru ddwywaith yn amlach nac ysgolion Lloegr. A phwy well i amddiffyn hyn ar Taro’r Post na Rod Richards. Roedd angen dangos y gwahaniaeth rhwng ‘warriors’ a soldiwrs medd ef, beth bynnag oedd hynny’n feddwl, gan bastynu ei wrthwynebydd drosodd a throsodd a’r cwestiwn ‘pwy o’r Cynulliad sydd wedi bod yn y lluoedd arfog?’. Roedd O wedi bod yn yr SAS felly’n deall hi, er nad oedd hynny’n amlwg pan iddo redeg o Glwb Ifor Bach flynyddoedd yn ôl wedi i ganwr adnabyddus o Feirionydd gyffroi ar ei weld.
Plastig ffantastig
Mae ’na wastad rywbeth yn mynd ymlaen yng nghae’r Saeson, ys dywed Mr Geraint Jarman, a’r wythnos hon roedd darogan gwaed wrth i siopau ddechrau codi 5c am fag plastic. ‘Chaos’ oedd rhagolwg y Daily Mail, yn gweld y byddai dyrnu’n anochel, ond roedd ennyd athrylithgar gan ei chwaer The Mail on Sunday yn gweu llwybr cyfrwys drwy’r broblem. ‘To beat the 5p charge….just say NO and bring your own’ bloeddiodd eu pennawd. Na, ’dyw’r rhain ddim yn dwp.
And now fe awn ni to S4C
Difyr yw arddull newydd cyflwyno rhaglenni S4C lle clywir brawddeg Gymraeg yn cael ei gosod slap bang rhwng dwy frawddeg Saesneg. Ac ystyried y cwmnïau cwbl Gymreig sy’n cyflogi actorion a selebs cwbl Gymraeg i drosleisio’n gwbl Saesneg ar y Sianel Genedlaethol, datblygiad ddigon naturiol yw ‘We now toddle off to Cwmderi, lle mae Angela ac Eileen yn ffraeo and Ffion gets sloshed again‘.
Bwrdd yn dychryn barnwr
Hwre fawr i gyfraith a threfn wrth i saith dyn gael eu carcharu wedi’r ymosodiad ar yr orymdaith Rhyddid i Balestina yng Nghaerdydd. A does dim byd hiliol o gwbl yn nedfryd y barnwr wrth i ni sylwi mai’r dyn sydd yn y carchar hiraf, am dros ddwy flynedd a hanner, yw gorymdeithiwr o dras Asiaidd ymatebodd i’r cadeiriau a gwydrau gafodd eu taflu gan yr hilgwn go iawn a’u gyrru yn ôl wrth eu bygwth â bwrdd, fel gwelir ar fideos. Ni thaflodd y bwrdd hyd yn oed. Na, dim hiliaeth i’w weld yma. Da iawn Michael Fitton QC.
O.N. Y rhagflas yna dridiau yn ôl … gwell diolch i’r unigolyn a gymharodd pengefnogwr Yr Ariannin (Diego Maradona) gydag un Cymru (Gwil Gwalia) yng Nghwpan Rygbi’r Byd. Felly diolch Llifon Llên Llŷn. Ceisiaf ddiolch am bopeth rwy’n dwyn o hyn ymlaen, yn enwedig ganddo fo.