Oes angen gwersi ynganu ar yr amryddawn Nic Parry?
Yn y rhagflas hwn o gyfres newydd o ddyddiaduron wythnosol i ddod ar Golwg360, Hefin Jones sydd yn bwrw golwg dros ambell beth sydd wedi dal y sylw dros y dyddiau diwethaf.
Mawrhydi Maradona
Mor danbaid ei ddathlu wrth gefnogi ei wlad yng Nghwpan Rygbi’r Byd, hoeliau’r camerâu eu sylw ar Diego Maradona pob tro y sgoriai’r Ariannin. A gofiwch bwy oedd mascot y Cymry, ein heilun yn y stadiwm i gynrychioli ac uno’n cenedl? Y dyn ar y sgrin bob tro y sgoriodd y bois? Ia, Ein Tywysog oll William Wales. Neu efallai o hyn ymlaen, ac ystyried ei liwiau newydd, cawn ei alw’n Gwilym Gwalia. Gwae.
Bore cynnar i Bebb
I ble yn y byd yr aethost, gyfiawnder? Cwestiwn y codwyd gan drydaru Guto Bebb: ‘Chwe mis bellach ers i mi wneud unrhyw ddarllediad radio na theledu i’r BBC yng Nghymru. Gwasanaeth cyhoeddus?’. Rheswm arall i wrthod talu’r drwydded. Er, roedd rhywrai’n siŵr iddo ei glywed ar y Post Cyntaf ryw chwe wythnos yn ôl. Braidd yn fuan yn y dydd i gofio efallai.
Gwersi ynganu i Nic
Oes unrhyw un wedi dysgu Nic Parry sut i siarad yn gywir bellach? A chlywed ei glebran hollol naturiol ar Sgorio, yn tasgu’r enwau yn ei lais a’i acen ei hun fel petai erioed wedi darlledu, efallai y gwna sbelen ar Radio Cymru fyd o les, a bydd yn gwella wedyn wrth arfer yngan enwau fel Meredydd Evinz, Carwyn Jeunz, Liam Uillieuhms ac Aeron Addwords yn y ffordd eu crëwyd.
Arf peryglus Owen Smith
Cyfweliad ag Owen Smith mewn cyntedd yng nghynhadledd ei blaid. ‘I believe the world would be a safer place if all nations would get rid of nuclear weapons. But I don’t believe the world would be safer if Britain got rid of its nuclear weapons’. A gadawodd yr Aelod Seneddol Llafur dros Bontypridd hi ar hynny. Pawb arall gyntaf felly ynte, Owen.
Hedfan dros Lŷn
Un o’r buddion o drigo ym Mhen Llŷn yw’r awyrennau rhyfel a’u sŵn bron feunyddiol. Mae’n union fel bod ar wyliau yn y Dwyrain Canol. Felly diolch i Liz Saville a Hywel Williams am eu hymgyrch i gadw cytiau amrywiol y RAF yn agored yng Ngwynedd, canys eu hepgor oedd cynlluniau dieflig y llywodraeth gan roi cymaint â deg swydd rhan amser yn y fantol. A pham stopio yn y fan honno? Pam ddim agor mwy? Mae safle da ym Mhenyberth er enghraifft.