Mae Llys Cyfiawnder Ewrop wedi ategu hawl gwledydd Ewrop i wahardd carcharorion sydd wedi’u cael yn euog o droseddau difrifol rhag pleidleisio.
Mewn achos sy’n cael ei wylio’n agos gan y Deyrnas Unedig, fe wnaeth y llys ddyfarnu bod y gwaharddiad ar bleidleisio a osodwyd gan lywodraeth Ffrainc yn “gymesur”.
Roedd y llys wedi dod i’r casgliad ei bod hi’n bosibl i wledydd Ewrop gadw gwaharddiad sy’n cyfyngu ar hawl rhai unigolion sydd yn y carchar am droseddau difrifol rhag pleidleisio mewn etholiadau i’r Senedd yn Ewrop.
Fe wnaeth cyn-garcharor, Thierry Delvigne ddweud bod ei wahardd rhag pleidleisio yn torri ei hawl yn Siarter yr Undeb Ewropeaidd ar Hawliau Sylfaenol sy’n galluogi pobl i gymryd rhan mewn etholiadau yn Ewrop.
‘Dim newid barn’ – Cameron
Wrth siarad yn fuan ar ôl y dyfarniad, mynnodd David Cameron ei fod yn benderfynol o gadw’r gwaharddiad yn y DU sy’n rhwystro unrhyw garcharor rhag pleidleisio, beth bynnag fo canlyniad yr achos yn Ewrop.
“Dwi heb newid fy marn o gwbl,” meddai wrth radio LBC.
“Mae ein cyfraith ni wedi cael ei phrofi ac mae ein Goruchaf Lys wedi dweud bod ein cyfraith yn gywir ac na ddylai carcharorion gael yr hawl i bleidleisio, dyna fy marn i.”
Fe wnaeth llefarydd ar ran llywodraeth y DU gadarnhau bod Llys Ewrop wedi dod i’r casgliad bod cyfyngiadau Ffrainc ar roi’r bleidlais i garcharorion yn gyfreithiol.
“Mae gwaharddiad y DU ar ganiatáu i garcharorion bleidleisio yn aros yr un fath ac mae’n parhau i fod yn fater i’r Goruchaf Lys a’r Senedd yn y DU.”