Wrth i Lywodraeth Boris Johnson gael ei gorfodi i addo pleidlais i ASau dros gyfreithiau coronafeirws sylweddol “lle bynnag y bo modd”, ar ôl cael ei chyhuddo o drin y Senedd â dirmyg gan Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, mae’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol wedi dweud bod yn rhaid i newidiadau i reolau’r Coronafeirws “gael eu gwneud yn ddemocrataidd.”

Ar hyn o bryd mae’r ddeddf yn caniatáu i weinidogion osod rheoliadau heb gymeradwyaeth y senedd, ond mae’n rhaid i’r mater gael ei drafod gerbron y senedd cyn gynted y bo’n ymarferol bosib.

Ond mewn datganiad wedi’i eirio’n gryf heddiw (30 Medi), dwrdiodd Syr Lindsay Hoyle, Llefarydd Ty’r Cyffredin, y Llywodraeth am y ffordd “gwbl anfoddhaol” yr oedd y Senedd wedi’i gwthio i’r cyrion, gyda chyfreithiau newydd yn cael eu cyflwyno heb graffu ac weithiau’n cael eu cyhoeddi ychydig oriau cyn dod i rym.

“Lle bynnag y bo modd, byddwn yn cynnal pleidleisiau”

Mewn ymdrech i dawelu cwyno ar y meinciau Cedwadol, mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Matt Hancock, bellach wedi rhoi rhywfaint o gonsesiwn dros fesurau cenedlaethol newydd.

“Ar gyfer mesurau cenedlaethol sylweddol, a fydd yn weithredol yn Lloegr gyfan neu ledled y DU, byddwn yn ymgynghori â’r Senedd – lle bynnag y bo modd, byddwn yn cynnal pleidleisiau cyn i reoliadau o’r fath ddod i rym,” meddai Mr Hancock wrth Dŷ’r Cyffredin.

Daw hyn wedi i’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol ddweud bod yn rhaid i Aelodau Seneddol yn San Steffan gael pwerau i gymeradwyo a thrafod newidiadau sylweddol i reolau’r coronafeirws cyn iddyn nhw gael eu cyflwyno.

Ni ddylid “gwthio’n aelodau etholedig i’r ymylon ar fympwy”

Wrth gefnogi galwadau am drafodaethau seneddol rhwng gwahanol bleidiau cyn bod newidiadau’n cael eu cyflwyno, dywedodd Darren Hughes, Prif Weithredwr y Gymdeithas Diwygio Etholiadol fod “rhaid i Aelodau Seneddol gael cyfle i graffu ar fesurau coronafeirws fyddai’n effeithio arnom ni gyd.

“Rhoddodd Llywodraeth Prydain bwysau ar Aelodau Seneddol i ddychwelyd i San Steffan er mwyn rhoi mwy o amser iddynt drafod – mae’n rhaid i weinidogion gadw at yr addewid.

“Mae’n amlwg bod pwysau mawr ar Lywodraeth Prydain ar hyn o bryd, ond mae’n rhaid i’n cynrychiolwyr allu edrych dros reolau fydd yn effeithio pawb,” esbonia.

“Ni ddylid aberthu gwiriadau democrataidd pan fo’u hangen arnom fwyaf.

“Ni all Llywodraeth Prydain barhau i reoli drwy bwerau Harri’r VIII am byth, ac mae’n iawn fod Aelodau Seneddol y meinciau cefn yn cwestiynu hyn.

“Mae aelodau ar draws y pleidiau gwleidyddol yn cefnogi’r angen i roi mwy o ddweud i Aelodau Seneddol.

“Llywodraethu drwy’r wasg yn tanseilio hyder” 

Mynna Darren Hughes “mai nawr yw’r amser ar gyfer craffu’n fanylach, nid gwthio ein haelodau etholedig i’r ymylon ar fympwy.

“Rydym angen proses glir a thryloyw ar gyfer craffu ar newidiadau i reolau Covid, gan symud oddi wrth reolaeth ddictad tuag at benderfyniadau democratig.

Ychwanegodd: “Bydd llywodraethu drwy’r wasg yn tanseilio hyder y cyhoedd.”

Llywodraeth Cymru dan y lach yn ogystal

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei chyhuddo o wneud datganiadau i’r wasg yn hytrach na gerbron y Senedd yn ddiweddar hefyd.

Yr wythnos hon, cyhuddwyd Gweinidogion o “godi dau fys” ar y sefydliad am ddewis peidio mynychu’r siambr gan arwain at ffrae ar Twitter rhwng Andrew RT Davies, Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr dros Iechyd a’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.

Yn ogystal, mewn trydariad rai dyddiau yn ôl dywedodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, “Mae’n warthus fod gohebwyr yn cael gwybod am gyfyngiadau Covid-19 tua hanner awr ar ôl i’r Llywydd ddweud wrth y Senedd.

“Nid yw’r Prif Weinidog wedi penderfynu, felly nid oedd yn gallu gwneud datganiad.

“A gafodd y Cabinet eu trin â’r un dirmyg? Nid dyma’r ffordd i lywodraethu gwlad mewn argyfwng.”