Mae bron i filiwn o ferched ym Mhrydain wedi “methu” apwyntiadau sgrinio canser y fron yn sgil Covid-19, yn ôl amcangyfrifon un elusen.

Mae’n bosib bod miloedd o bobol yn byw gyda chanser sydd heb gael ei ddarganfod gan fod apwyntiadau wedi cael eu gohirio, meddai elusen Breast Cancer Now.

Cafodd gwasanaethau sgrinio canser y fron eu gohirio yn ystod y pandemig er mwyn lleihau’r risg o ledaenu’r feirws, ac er mwyn rhyddhau adnoddau brys y GIG.

Erbyn hyn, mae gwasanaethau wedi ailddechrau, ac mae’r elusen wedi mynegi pryder am nifer y menywod sydd dal i aros am apwyntiadau.

Mae’r elusen wedi amcangyfrif bod 986,000 o fenywod ledled gwledydd Prydain wedi methu mamogramau, gydag 838,000 ohonynt yn Lloegr, 78,000 yn yr Alban, 48,000 yng Nghymru, a 23,000 yng Ngogledd Iwerddon.

Ymysg y menywod hyn, gallai 8,600 ohonynt fod yn byw â chanser nad ydynt yn ymwybodol ohono ar hyn o bryd.

Rhestrau aros yn “destun pryder mawr”

Galwodd yr elusen ar y GIG a Llywodraeth Prydain i esbonio eu cynlluniau i fynd i’r afael â’r cynnydd disgwyliedig yn y galw am wasanaeth sgrinio canser y fron.

Dywedodd y Farwnes Delyth Morgan, prif weithredwr Breast Cancer Now: “Mae bron i filiwn o fenywod ledled gwledydd Prydain yn aros am apwyntiadau, ac mae hyn yn destun pryder mawr gan ein bod yn gwybod y gallai 8,600 ohonynt fod yn byw â chanser y fron.

“Mae mamogramau yn allweddol i ddarganfod canser y fron yn gynnar, rhywbeth sy’n hollbwysig er mwyn atal menywod rhag marw o’r afiechyd.

“Rydym yn deall bod rhaid oedi sgrinio yn sgil y pandemig, ond mae’n rhaid ailddechrau nawr er mwyn sicrhau bod pob menyw yn cael mynediad at apwyntiadau sgrinio canser y fron, ac ni allwn fforddio cael rhagor o oedi,” esboniodd.

“Mae’n rhaid i lywodraethau a chyrff iechyd y GIG ar draws gwledydd Prydain gyhoeddi cynlluniau er mwyn ateb y cynnydd mewn menywod sydd angen apwyntiadau.”

Effaith yn “isel iawn”

Dywedodd llefarydd ar ran y GIG yn Lloegr bod “y rhan fwyaf o’r canserau sydd yn cael eu darganfod drwy famogramau yn cael eu darganfod yn gynnar iawn, felly mae unrhyw effaith ar gleifion yn isel iawn.

“Cafodd mwy na 200,000 o bobol eu trin am ganser pan oedd y pandemig ar ei waethaf, ac mae gwasanaethau sgrinio canser y fron wedi ailddechrau erbyn hyn, gyda dros 400,000 o fenywod yn derbyn gwahoddiadau rhwng Mehefin ac Awst.

“Mae miloedd o wahoddiadau yn cael eu gyrru i fenywod bob mis – rydym yn annog unrhyw un sydd yn cael gwahoddiad i wneud apwyntiad.”