Mae Ceidwadwr amlwg wedi ategu’r galw am osod plac ym Mae Caerdydd i goffáu Aelodau o’r Senedd sydd wedi marw yn y swydd.
Mae Andrew RT Davies am iddo gael ei osod mewn lle “amlwg” yn adeilad y Senedd, a daw’r alwad yn sgil marwolaeth yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd, Mohammad Asghar.
Ers dechrau tymor y senedd hon mae dau Aelod arall o’r Senedd hefyd wedi marw – Steffan Lewis, a Carl Sargeant – a dyma’r bobol byddai’r fath gofeb yn ei goffau, meddai.
“Mae jest yn amlwg wrth i chi gerdded o gwmpas yr adeilad nad oes plac i goffáu’r aelodau rheiny sydd wedi marw yn ei swyddi,” meddai wrth golwg360.
“Dyw hynna ddim yn beth anarferol yn y rhan fwyaf o weithleoedd. Os oes rhywun yn marw, mae yna gofeb sy’n nodi hyd eu hamser yn ei swydd, ac sydd yn atgoffa’r bobol sydd yn dod ar ei ôl amdano.
“Dyw hyn ddim i bobol sydd wedi gorffen eu cyfnod yn y swydd, ac yna wedi marw yn ddinasyddion preifat.”
Mae’r ymdrech i godi plac wedi bod yn mynd rhagddo ers rhai blynyddoedd, meddai, ac mae’r Aelodau o’r Senedd, Bethan Sayed a Jenny Rathbone, hefyd wedi bod ynghlwm ag ef.
Mae’n debyg bod ystâd y Senedd wedi bod yn “ddiolchgar” am y trafodaethau hyd yma, ond bod y cyfan wedi dod i stop oherwydd yr argyfwng covid-19.
Plac i ymgyrchwyr iaith?
Yn siarad â Golwg fis hwn, dywedodd yr actores, Sharon Morgan, y dylid codi plac yn y Senedd er mwyn coffáu ymgyrchwyr iaith.
Yn ymateb i hynny mae Andrew RT Davies yn dweud ei bod hi “fyny i bobol eraill i ddadlau eu hachos hwythau”, ac mae’n ategu nad yw am “osod un ymgyrch yn erbyn y llall”.
Mae’n hefyd yn dweud ei bod yn “bwysig nodi nad ple yw hyn i godi placiau ledled yr ystâd” oherwydd y byddai hynny’n “trin yr ystâd yn neuadd goffa yn hytrach na senedd”.
Mae yna eisoes blac ar ochr yr adeilad i goffáu Val Feld, Aelod Llafur o’r Senedd a fu farw o ganser yn y swydd yn 2001.