Morgan Owen
Mae cydweithio’n rhy agos â phleidiau chwith eraill ynysoedd Prydain yn niweidio plaid genedlaetholgar Cymru, yn ôl Morgan Owen
‘Ymlaen! (dros erchwyn y dibyn etholiadol)’ ddylai fod arwyddair Plaid Cymru, wrth iddi edrych yn fwy tebygol byth o golli’r perthnasedd enciliol sydd ganddi yng ngwleidyddiaeth Cymru. Yr ydys wedi cael cryn feirniadaeth ar UKIP ar sail ei hanallu cynhenid i newid sefyllfa Cymru er gwell, ac yn gyfiawn y gwnaed felly.
Ond nid yw Plaid yn ddi-fefl yn rhinwedd ei statws fel yr unig blaid Gymreig, ac yn sicr, ni ddeillia unrhyw fudd o’i thrin fel crair sanctaidd nid gwiw mo’i beirniadu― er y bydd yn ddim mwy na chrair os pery’r tueddiadau cyfredol. Dyma’r caswir: mae Plaid yn arwain ei hun, a Chymru ar ei hôl, ar daith annychwel i’r affwys fel y mae ar hyn o bryd. Geiriau un sydd yn pleidleisio dros y Blaid yw’r rhain, a bid hysbys nid ymosodiad mo hwn, ond ymgais i esbonio ei haneffeithlonrwydd a chynnig ffordd ymlaen, pe cawn.
Gwrthrych annisgwyl sydd i’r feirniadaeth y tro hwn: sosialaeth y Blaid. Yr wyf yn ddyledus i lyfr Simon Brooks, Pam na fu Cymru, am y sythwelediad, er byddaf yn amlygu peth arno fe fy hun yn yr ysgrif hon.
Ceidwadaeth a’r iaith
Dyma felly broblem y blaid: rhaid wrth ryw fesur o geidwadaeth er mwyn achub neu warchod rhywbeth yn wyneb dyfodiad cystadleuydd― neu orchfygwr. Hynny yw, mewn cyd-destun Cymreig, greddf geidwadol yw’r reddf i gadw’r iaith yn fyw, a chyda hi, y cysyniad o genedl Gymreig na all fodoli hebddi.
Dyma nod hollol gyfiawn, ac un y dylid ei ymorol â brwdfrydedd, ond nid oes angen gradd mewn athroniaeth i sylweddoli mai ieuad anghymharus iawn yw sosialaeth― â’i bwyslais ar gynnydd― a chenedlaetholdeb adferol, cadwriaethol, a red yn gwbl groes i ddamcaniaeth ‘cynnydd’ fel y’i deellir yn ôl sosialaeth Brydeinig.
Cynnydd o safbwynt sosialaeth yw uno’r proletariat yn erbyn y dosbarth a’u gorthryma hwy, sef y sawl sy’n berchen ar y moddion cynhyrchu. Nid yw pethau neilltuol megis iaith, crefydd ac arferion diwylliannol o bwys yn y weledigaeth honno am eu bod yn rhwystro uno’r gweithwyr (sut bynnag y mynner diffinio’r ‘gweithwyr’) yn eu brwydr. Hynny yw, maent yn bethau sydd yn ymgorffori arwahanrwydd.
Pa iaith bynnag a siaredir gan y mwyafrif yw iaith y frwydr honno felly. Ym Mhrydain, y Saesneg, wrth gwrs, yw’r iaith honno. Yng Nghymru, o’r herwydd, perthyn y Gymraeg i fyd y pethau neilltuol, adweithiol a ddeil y bobl yn ôl, tra bo’r Saesneg yn uno, ac yn cynnig ffordd o fynd ymlaen yn y byd.
Yn yr un modd, yn enw uno cynifer o bobl â phosib, dirmyga’r fath sosialaeth ymhollti pobloedd yn wledydd ac yn genhedloedd, ac felly mae’n gogwyddo’n gryf tuag at wladwriaethau mawrion, canoledig. Yn y bôn, anela at gymathiad ar raddfa eang. Ym Mhrydain felly, gofyn sosialaeth am gymathiad Cymru â Lloegr er lles y mwyafrif.
Sosialaeth Gymreig
Dyma’r fframwaith syniadaethol y mae’r Blaid yn gweithio y tu fewn iddi: sosialaeth Brydeinig. Cais ryddid i Gymru trwy arddel syniadaeth gymhathol, sydd yn araf deg yn rheibio’r mudiad o’i sylwedd.
Ond dyma droad annisgwyl yn y llith hon. Daliaf i mai sosialaeth yw’r ffordd ymlaen i Gymru, ac i Blaid, ond, rhaid i’r sosialaeth honno fod yn Gymreig. Mae bwriad Plaid i gydweithio â’r Chwith Seisnig yn rhwym o ddwysáu effaith negyddol uchelgais gymhathol sosialaeth Brydeinig; rhaid gwneud Cymru a’r bobl Gymreig yn y mwyafrif y ceisir eu codi, nid eu hymdoddi i’r mwyafrif Saesneg a Seisnig. Os gwneir Cymru a’r Gymraeg yn nod y cynnydd, a’u gwneud hwy’n ddelfryd y mwyafrif, yna ceir ‘cynnydd’ law yn llaw â chadwraeth y Gymraeg a’r genedl Gymreig. O’r sylfaen honno y byddem yn gymhwysach o lawer i chwarae ein rhan yn y frwydr ryngwladol dros ryddid.
Erfyniaf ar gefnogwyr Plaid felly i feddwl o ddifri am eu sosialaeth hwy. Mae arddel sosialaeth Brydeinig wrth geisio rhyddid i Gymru a pharhad y Gymraeg megis ‘llifio’r gangen yr ydych yn eistedd mor gysurus arni’, a benthyg ymadrodd gwych Ambrose Bebb.
Mae Morgan Owen yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.