Mike Parker - sefyll eto yn 2020?
Ifan Morgan Jones sy’n dweud y bydd modd i’r Blaid adeiladu ar neithiwr dros y blynyddoedd nesaf…
Roedd methu a chipio Ynys Môn a Cheredigion yn siomedig i Blaid Cymru, ond nid oedd yn drychinebus. Etholiadau’r Cynulliad sy’n hollbwysig i lwyddiant y Blaid yn yr hirdymor. Nid oedd yr SNP yn cael eu hystyried yn berthnasol ar lefel San Steffan nes iddynt ennill dwy dymor yn olynol yn y blaid fwyaf yn Senedd yr Alban. Fe ddylai proffeil uwch Leanne Wood yn enwedig roi Plaid Cymru mewn safle pwerus y flwyddyn nesaf, ac fe fydd ail-ddyfodiad Adam Price hefyd yn cryfhau eu rhengoedd yn sylweddol.
Roedd Vaughan Roderick wedi awgrymu ar S4C mai camgymeriad ar ran Plaid Cymru oedd tywallt cymaint o adnoddau i mewn i Arfon, ar draul yr ymdrech i ennill Ynys Môn. Mae mwyafrifoedd swmpus Plaid yn Arfon, Dwyrain Caerfyrddin a Dwyfor Meirionydd yn cefnogi’r ddadl honno i raddau. Serch hynny – roedd y polau piniwn wedi camarwain y Blaid, a phawb arall. Y disgwyl oedd y byddai pleidlais Llafur ar i fyny ar 2010, a pe bai hynny wedi digwydd fe fyddai seddi fel Arfon wedi bod yn gystadleuol. Mewn gwirionedd roedd pleidlais Llafur yn fflat, ac hyd yn oed wedi syrthio mewn rhai ardaloedd, tra’n cynnyddu mewn etholaethau lle’r oedden nhw eisoes ymhell ar y blaen yn unig.
Mae’r canlyniadau yn golygu bod angen i Blaid ail-ystyried ei gogwydd gwleidyddol. Does yna ddim tystiolaeth bellach i awgrymu bod Cymru yn wlad arbennig o adain chwith o’i gymharu â Lloegr. Hyd yn oed yn y Cymoedd, gellid dadlau bellach eu bod nhw’n pleidleisio Llafur, nid oherwydd eu bod nhw’n arbennig o sosialaidd, ond am eu bod nhw’n geidwadol (gyda ‘c’ fach). Gwrthod hunaniaeth diwylliannol Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr y maen nhw. Mae eu parodrwydd i gofleidio UKIP yn brawf o hyn, yn fy nhyb i. Os yw’r Blaid am gystadlu o ddifrif am bleidleisiau y bobol hyn, rhang gwneud hynny o’r tir canol gwleidyddol. Cenedlaetholdeb Plaid Cymru yw ei phrif rhinwedd, nid ei sosialaeth.
Beth bynnag mae Paul Krugman yn ei ddweud am obsesiwn di-angen y Ceidwadwyr â diffygion ariannol, mae’n amlwg bod y pleidleiswyr bellach wedi eu argyhoeddi bod darbodaeth ariannol yn safbwynt call a chytbwys. O ystyried bod angen i Gymru leihau ei dibyniaeth ar y pwrs cyhoeddus os yw’r wlad am sicrhau rhagor o hunanlywodreath, fe fyddai dadleuon Plaid Cymru mewn gwirionedd yn gwneud rhagor o synnwyr pe baen nhw’n cefnu ar y syniad bod arian yn tyfu ar goed. Yn hytrach na gwrthod llymder ariannol yn llwyr, a gweiddi am ‘austerity’ bob cyfle, gellid yn hytrach ddadlau bod ei angen ond ei fod yn aml wedi ei dargedu at y bobl anghywir am resymau ideolegol. Rwy’n credu y byddai dadl o’r fath yn fwy tebygol o argyhoeddi pleidleiswyr bod y Blaid yn ddewis amgen i’w chymryd o ddifrif.
Ni wnaeth Plaid Cymru yn arbennig o wael yng Ngheredigion. Syrthiodd pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol 14.2% yno, o’i gymharu â 15.2% ar draws y Deyrnas Unedig. Methiant Plaid Cymru oedd caniatau i’r fath fwyafrif adeiladu yn y lle cyntaf. Roedden nhw’n talu’r pris am ymgyrch di-fflach 2010. Mae’n werth nodi bod Mark Williams wedi sefyll tair gwaith yng Ngheredigion cyn ennill y sedd. O ystyried chwalfa ei blaid yng ngweddill y wlad, mae’n ymylu ar fod yn aelod annibynol poblogaidd erbyn hyn. Efallai y dylai Plaid Cymru ystyried cynnig yr un ymgeisydd yn 2020, ac adeiladu ar y seiliau cadarnhaol a osodwyd eleni.