Er nad oedd UKIP wedi llwyddo i ennill yr un sedd, maen nhw wedi cynyddu eu pleidlais yn sylweddol yng Nghymru.
Bellach, maen nhw wedi codi i fod y drydedd blaid yng Nghymru ar sail pleidleisiau, a hynny ar draul Plaid Cymru.
Yn Ynys Môn, daeth eu harweinydd yng Nghymru, Nathan Gill yn bedwerydd y tu ôl i Lafur, Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr. Ar lefel Brydeinig, fe gollodd y blaid sedd Rochester a Strood, gan ddal eu gafael ar Clacton.
Ar ôl tair awr yn unig o gwsg, Nathan Gill fu’n trafod hynt a helynt ei blaid gydag Alun Rhys Chivers.
Fe wnaethoch chi gynyddu nifer eich pleidleisiau, ond heb ennill yr un sedd yng Nghymru. Pa mor siomedig ydych chi?
Siomedig iawn, ac mae’n arwydd o’r drefn ‘cyntaf i’r lan’ sydd gennym ein bod ni wedi ennill mwy o bleidleisiau na Phlaid Cymru, a’u bod nhw wedi cael tri aelod seneddol tra wnaethon ni ddim cael yr un. Ry’n ni’n siomedig iawn gyda’r ffaith na chawson ni’r un aelod seneddol ond ry’n ni’n hapus iawn gyda’r ffaith ein bod ni wedi cynyddu nifer ein pleidleisiau.
“Wnaethon ni ad-ennill pob un blaendal ond pum mlynedd yn ôl, wnaethon ni golli pob un, ac mae hynny’n arwydd o fomentwm mawr ymlaen i ni. O blith yr holl bleidiau, ni yw’r unig blaid sydd wedi gwella fesul ymgeisydd ym mhob un etholaeth trwy Brydain. Dw i ddim yn credu bod yr un blaid arall yn gallu dweud eu bod nhw wedi gwneud hynny. Ry’n ni wedi cymryd camau breision. Roedden ni’n dweud wrth bobol oedd wedi pledleisio droson ni, ‘Diolch yn fawr, ry’n ni’n ddiolchgar am eich pleidlais, mae’n flin gennym na chewch chi’ch cynrychioli ond yn yr etholiadau yn y Cynulliad y flwyddyn nesaf, sydd ag elfen o gynrychiolaeth gyfrannol, fe gewch chi’ch cynrychioli gan UKIP bryd hynny.
A yw pleidlais dros UKIP yn dal yn bleidlais brotest?
Mae hynny ar ben bellach. Dw i ddim yn nabod unrhyw un sy’n pleidleisio dros UKIP sy’n dweud ‘Dw i’n pleidleisio drosoch chi oherwydd dw i’n protestio yn erbyn hyn a’r llall’. Mae pobol yn pleidleisio dros UKIP am eu bod nhw am gael UKIP erbyn hyn. Gallwn ddweud hynny’n eitha sicr. Er enghraifft, yn Ynys Môn, fe ges i bron union yr un nifer o bleidleisiau ag y ces i’r llynedd yn etholiadau Ewrop. Felly mae pobol yn pleidleisio droson ni ac yn aros gyda ni. Mae’n bychanu pobol sy’n pleidleisio droson ni i ddweud eu bod nhw ond yn pleidleisio droson ni oherwydd maen nhw am brotestio ac y bydden nhw wedi pleidleisio dros rywun arall oni bai eu bod nhw am brotestio.
Fe ddaethoch chi, fel ymgeisydd, yn bedwerydd yn Ynys Môn. Oeddech chi’n disgwyl canlyniad gwell?
Ro’n i’n disgwyl gwneud yn well. Dw i’n credu mai’r hyn ddigwyddodd yn Ynys Môn ddigwyddodd trwy Brydain. Fe ail-gododd y Ceidwadwyr, er mawr syndod i bawb. Yn y tri etholiad blaenorol, doedd y Ceidwadwyr ddim wedi gwneud yn dda iawn o gwbl ar yr ynys. Fe ges i syndod, a dw i’n sicr eu bod nhw wedi cael syndod ynghylch pa mor dda wnaethon nhw yn Ynys Môn.
O gofio bod cynrychiolaeth gyfrannol yn bodoli yn etholiadau’r Cynulliad, beth fydd eich targedau chi ar gyfer y flwyddyn nesaf?
Yr hyn ry’n ni’n ei ddweud yw y byddwn ni’n brwydro er mwyn ennill. Dyna sy’n rhaid i chi ei wneud ym mhob etholiad. Ry’n ni’n gobeithio dod yn wrthblaid swyddogol yn yr etholiadau ar gyfer y Cynulliad y flwyddyn nesaf, a fydd hynny ddim yn dasg hawdd. Ond ry’n ni wir yn teimlo bod hynny’n bosib i ni.
Mae eich cyn-arweinydd bellach, Nigel Farage wedi dweud bod “llawer o bleidleisiau UKIP a llawer o bleidleiswyr UKIP blin”. Ydych chi’n cytuno?
Yr hyn mae e’n cyfeirio ato yw’r ffaith eu bod nhw’n flin ynghylch y ffaith eu bod nhw wedi pleidleisio droson ni a’u bod nhw wedi ennill un aelod seneddol yn unig. Dw i’n cytuno’n llwyr gyda hynny. Dw i’n credu ei bod yn warthus. Os ydych chi’n siarad ag unrhyw un yn unrhyw ran o’r byd a dweud wrthyn nhw fod plaid wleidyddol wedi ennill bron bedair miliwn o bleidleisiau ac un aelod seneddol, bydden nhw’n cael braw ynghylch y math o drefn a fyddai’n galluogi’r fath anghyfiawnder i ddigwydd.
Beth sydd gan fywyd ar ôl Nigel Farage i’w gynnig i UKIP?
Ry’n ni’n siomedig na chafodd Nigel ei ethol. Dw i’n credu y byddai wedi bod yn hyfryd i wleidyddiaeth Prydain, nid yn unig i UKIP, pe bai Nigel wedi cael mynd i San Steffan gan y byddai’n sicr wedi deffro’r cyfan. Fe fyddai wedi dod ag elfen ffres i’r cyfan. Dw i’n credu y byddai tipyn mwy o bobol wedi amgyffred â gwleidyddiaeth San Steffan pe bai e wedi bod yno. Yn yr ystyr hynny, ry’n ni’n drist iawn na chafodd ei ethol. Wrth gwrs, mae e’n ddyn sy’n cadw at ei air. Fe ddywedodd y byddai’n ymddiswyddo pe na bai’n cael ei ethol. Chafodd e ddim, ac felly fe wnaeth e ymddiswyddo. Beth nesaf i UKIP? Mae gyda ni arweinydd dros dro. Byddwn ni’n cynnal ras am yr arweinyddiaeth ym mis Medi. Mae nifer o bobol dda a chryf o safon uchel dw i’n gwybod amdanyn nhw o fewn y blaid. Dw i ddim yn siwr pwy sydd am sefyll na phwy sydd am roi eu henwau ymlaen. Ond o blith y rhai sydd yn gwneud hynny, fe fyddwn ni’n craffu arnyn nhw ac fe gawn ni ethol arweinydd newydd.
A fydd David Cameron yn cadw at ei air yntau o ran addewid i gynnal refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd?
Os nad yw e, fe fydd e’n colli’r ychydig hygrededd sydd ganddo fe’n weddill. Fe wnaeth e addo un o’r blaen. Fe wnaeth e addo refferendwm ar Lisbon. Roedd yn addewid cadarn ond wnaeth e ddim digwydd. Fe wnaeth e addo refferendwm [ar Ewrop] ond wnaeth e ddim digwydd. Fe gyflwynon nhw’r chwip er mwyn gorfodi eu haelodau seneddol i bleidleisio yn ei erbyn. Galla i ddeall pobol sy’n amheus am y peth ond dw i wiry n credu y bydd e’n parhau â’r peth. Yr hyn dw i’n gofidio amdano yw amodau’r refferendwm a hefyd y cwestiwn fydd yn cael ei ofyn, faint o arian fydd yn cael ei wario gan y Llywodraeth a’r Undeb Ewropeaidd wrth geisio perswadio’r cyhoedd ym Mhrydain, neu ddychryn pobol Prydain, i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ac ry’n ni’n amheus iawn ynghylch pa mor bell fyddai unrhyw refferendwm yn mynd.