Ed Miliband, Nick Clegg a David Cameron mewn seremoni i nodi Diwrnod VE yn Llundain heddiw
Mae seremonïau i nodi 70 mlynedd ers Diwrnod VE, sef diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop, wedi cynnal ledled Cymru a gweddill gwledydd Prydain.

Fe gafodd dau funud o dawelwch ei gynnal ym mhob rhan o ystâd y Cynulliad yng Nghaerdydd am 3 y prynhawn ‘ma ac fe wnaeth Dirprwy Lywydd y Cynulliad David Melding AC osod torch mewn Gwasanaeth Coffau Cenedlaethol yng Nghastell Caerdydd.

Yn Llundain, roedd band y Gwarchodlu Cymreig yn chwarae wrth i David Cameron, Ed Miliband a Nick Clegg osod torchau ar droed y Senotaff.

Roedd dros 100 o gyn-filwyr yn y brif ddinas wrth i’r torchau gael eu gosod.

Yn 1945, fe gyhoeddodd y Prif Weinidog Winston Churchill y tu allan i’r Senotaff bod chwe blynedd o ryfel gyda’r Almaen ar ben.