Gareth Vincent Hall
Mae swyddog achub bywyd mewn pwll nofio yn ardal Caernarfon wedi cael ei gyhuddo o deithio i America er mwyn cael rhyw gyda merch 10 oed yr oedd o wedi’i chyfarfod dros y we.
Mae Gareth Vincent Hall, 22, wedi cael ei gyhuddo o dreisio, sodomiaeth a herwgipio.
Clywodd cynhadledd i’r wasg yn Eugene, Oregon ei fod yn gweithio fel swyddog achub bywyd mewn pwll nofio yng ngogledd Cymru.
Y gred yw bod Gareth Hall wedi bod yn siarad â’r ferch dros y we am ddeufis cyn iddo deithio i’r UD.
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal gan yr heddlu.
Atal o’i waith
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Gwynedd bod yr holl weithdrefnau amddiffyn plant perthnasol wedi eu dilyn.
“Ym mis Hydref 2014, hysbyswyd Cyngor Gwynedd gan Heddlu Gogledd Cymru o ymchwiliad troseddol mewn perthynas ag aelod o staff Gwasanaeth Hamdden y Cyngor. Yn unol â pholisïau a gweithdrefnau perthnasol y Cyngor, mae’r aelod staff wedi ei atal tra bod ymchwiliadau’r heddlu yn parhau.
“Tra na fyddai’n briodol i ni gynnig sylw ar fanylion ymchwiliad Heddlu Gogledd Cymru sy’n parhau, gallwn gadarnhau fod yr holl weithdrefnau amddiffyn plant perthnasol wedi eu dilyn gan y Cyngor wrth reoli’r achos hwn.
“Fel Cyngor, byddem hefyd yn nodi fod rhaid i bob aelod o staff y Cyngor sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc gydymffurfio’n llawn gyda gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
“Tra’n bod yn ymwybodol o honiadau ar wahân sy’n ymwneud â’r unigolyn sydd wedi ymddangos yn ddiweddar ar wefannau newyddion yn yr UDA, ni fyddai’n briodol i ni gynnig sylw ar eu cynnwys ar hyn o bryd.”
.