Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan
Mae barnwr wedi gohirio cynlluniau i israddio gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan am y tro nes ei bod hi wedi cyhoeddi dyfarniad ynglyn a chais am adolygiad barnwrol i herio’r penderfyniad.

Mae’r gwrandawiad wedi cael ei gynnal yn Llys y Goron Yr Wyddgrug dros y deuddydd diwethaf ond nid oes dyddiad wedi’i bennu ar gyfer ailddechrau’r achos.

Roedd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn bwriadu israddio gwasanaethau mamolaeth sydd wedi’u harwain gan feddygon yn yr ysbyty ar 20 Mai – sy’n golygu y byddai’n rhaid i ddarpar famau’r ardal deithio i naill ai Ysbyty Gwynedd ym Mangor neu Ysbyty Maelor Wrecsam i roi genedigaeth.

Ond mae ymgyrchwyr yn dweud y byddai hyn yn peryglu bywydau ac maen nhw wedi cyflwyno cais am adolygiad barnwrol.

Ansicrwydd

Cafodd y penderfyniad i ohirio’r adolygiad barnwrol am y tro ei groesawu gan yr AC Darren Millar, sydd wedi datgan ei gefnogaeth i gynnal gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd o’r cychwyn.

“Rwy’n falch bod barnwr wedi atal y bwrdd iechyd rhag symud ymlaen a’r penderfyniad peryglus yma nes bod gwrandawiad arall yn cael ei gynnal,” meddai’r AC dros Orllewin Clwyd.

“Mae’r ansicrwydd yn parhau ond mae’r newyddion yn sicrhau o leiaf na fydd y penderfyniad yn cael ei ruthro.”