Mark Jones, llofrudd Amelia Jones
Mae llanc 17 oed wedi cyfaddef iddo roi alibi ffug i ddyn a lofruddiodd ei wyres pum wythnos oed.

Roedd y llanc, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, wedi dweud wrth yr heddlu ei fod yn y tŷ pan gafodd Amelia Jones ei hanafu’n ddifrifol yn ei chartref ym Mhontnewydd, Cwmbrân ym mis Tachwedd 2012.

Ond clywodd Llys Ynadon Caerdydd bod yr heddlu wedi darganfod ei fod wedi dweud celwydd ar ôl “bod dan bwysau” gan y llofrudd Mark Jones, 45.

Mae’r llanc wedi cyfaddef iddo ddweud celwydd wrth yr heddlu ac wedi pledio’n euog i gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae’r barnwr wedi cyfeirio’r llanc at banel troseddwyr ifanc a chafodd orchymyn i dalu costau o £100.

Cafwyd Mark Jones yn euog yn Llys y Goron Casnewydd o lofruddio ei wyres Amelia Jones a’i garcharu am oes. Bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 25 mlynedd dan glo.

Clywodd y llys ei fod wedi llofruddio’i wyres am ei fod yn casáu tad y babi, Ian Skillern, 41.

Roedd Amelia Jones wedi cael anafiadau difrifol i’w phen a bu farw yn yr ysbyty ar 19 Tachwedd.