Yr Arglwydd Dafydd Wigley
Mae Plaid Cymru yn dweud eu bod wedi cael “noson o lwyddiant” er iddyn nhw fethu ag ennill unrhyw seddi yn yr etholiad cyffredinol.
Fe lwyddodd y blaid i ddal ei gafael ar Dwyfor Meirionydd, Arfon a Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, ond fe fethon nhw a chipio Ynys Môn, Ceredigion a Llanelli.
Fe ddaeth y blaid yn bedwerydd ar draws Cymru i UKIP, ond fe fu cynnydd ym mhleidlais Plaid Cymru mewn ardaloedd eraill o Gymru.
Alun Rhys Chivers fu’n holi’r Arglwydd Dafydd Wigley, sydd wedi bod yn arwain ymgyrch etholiadol Plaid Cymru, am ei ymateb i’r canlyniadau neithiwr.
Ydych chi’n teimlo bod y noson wedi bod yn un siomedig i Blaid Cymru?
Nadw. Yn naturiol, mi fyddwn i wedi hoffi petaen ni wedi ennill Ynys Môn a Cheredigion a Llanelli’n seddi targed. Fe ddaethon ni o fewn trwch blewyn yn Ynys Môn, canlyniad arbennig o dda a gwaith caled iawn, iawn gan John Rowlands yn talu ffordd. A llwyddo i dynnu mwyafrif y Democratiaid Rhyddfrydol i lawr o 8,000 i 3,000 yng Ngheredigion. Roedd ymgyrch Vaughan Williams yn Llanelli’n ysbrydoliaeth. Yn sicr, mae ’na wers i ni ddysgu. Ond un neges sydd wedi dod allan o’r etholiad yma ydy’r llwyddiant ysgubol roedd Leanne wedi’i gael efo’r darllediadau. Mae Leanne wedi creu sylwedd iddi’i hun fel arweinydd cenedlaethol a dw i’n credu fydd hyn yn rhoi llawer iawn, iawn o fomentwm i ni wrth i ni ddod i’r etholiadau ar gyfer y Cynulliad y flwyddyn nesaf.
Ydy’r ffaith fod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael cymaint o drychineb ar draws Brydain yn gwneud y canlyniad yng Ngheredigion yn fwy anodd i chi dderbyn?
Yn naturiol, mae rhywun yn ymladd bob sedd yn ei gyd-destun ei hun, ac nid yn mesur yn erbyn yr Alban, er enghraifft, lle cafodd y Democratiaid Rhyddfrydol gymaint o grasfa. Un sedd sydd ar ôl yn fanno fel sydd yng Nghymru. Wrth gwrs, roedden nhw’n dechrau efo llawer mwy yn yr Alban. Yn sicr, mae gwers i’w dysgu. Mae hi llawer iawn, iawn rhy gynnar rŵan, ychydig oriau ar ôl yr etholiad, i wybod beth ydy’r gwersi. Mae isio dadansoddiad manwl ac yn sicr, mae gen i ddiddordeb mawr i weld beth sy’n dod yn ôl o’r etholaethau yn hynny o beth.
Mae’r bleidlais wedi cynyddu i Blaid Cymru ond dydy hynny ddim wedi cyfateb i seddi ychwanegol. Beth sydd angen ei wneud i sicrhau hynny?
Yn amlwg, mae’n rhaid cael y neges drosodd i bobol Cymru mai dim ond drwy Blaid Cymru mae Cymru am gael sylw yn San Steffan. Mi fyddwn ni’n ymladd er mwyn sicrhau ein bod ni’n cael sylw ac os oes newidiadau cyfansoddiadol yn dod i Brydain fel mae llawer yn disgwyl yn sgil llwyddiant ysgubol yr SNP, yna mi fydd Plaid Cymru’n codi llais ar ran Cymru. Pe bai gynnon ni chwech yn lle tri Aelod Seneddol, mi fyddai’n llais ni gymaint yn gryfach a byddai llawer mwy o siawns i Gymru fod yn cael manteision o ganlyniad i hynny. Yr SNP sy’n dod â manteision i’r Alban.
Mae UKIP bellach ar y blaen i Blaid Cymru o ran pleidleisiau. Faint o siom yw hynny?
Mae UKIP mewn sefyllfa od iawn lle maen nhw wedi cael pleidlais weddol wastad ar draws Prydain ond eto wedi methu ennill seddi. Mae gynnon ni dair gwaith mwy o seddi na nhw fel mae’n sefyll ar hyn o bryd yn Nhŷ’r Cyffredin. Mae hynny’n adlewyrchu’r gyfundrefn bleidleisio. Mae gan UKIP neges ac wrth gwrs, mae’r neges wedi aros yr un peth sef Undeb Ewrop. ’Dan ni am weld refferendwm ar hynny rŵan a dw i’n credu y bydd Plaid Cymru’n ymladd mor galed ag y gallwn ni i sicrhau bod Cymru’n aros yn rhan o’r Ewrop unedig. Mae hynny’n bwysig eithriadol i ddiwydiant a gwaith yng Nghymru, i amaethyddiaeth, ac yn bwysig o safbwynt safon byw pobol Cymru. Dyna un o’r brwydrau mawr sydd am ddod yn y senedd newydd.
Ydych chi’n credu bod yr iaith Gymraeg yn dal Plaid Cymru yn ôl, o ystyried bod yr SNP wedi cael buddugoliaeth ysgubol lle nad yw’r iaith yn ffactor?
Nadw, ddim o gwbl. ’Dan ni ddim wedi cael dim arwydd o hynny o gwbl efo unrhyw etholaeth. Dw i ddim wedi’i glywed o’n codi mewn unrhyw gyd-destun heblaw rhai positif i Blaid Cymru. Os dach chi’n sylwi ar y llwyddiant mae Plaid Cymru wedi’i gael, er enghraifft yng Nghaerdydd, lle ’dan ni wedi codi’r bleidlais yn sylweddol, yng Ngorllewin Caerdydd yn arbennig felly, mae pobol o gefndir di-Gymraeg yn derbyn y Blaid oherwydd ein rhaglen wleidyddol ni. Mae hynny’n cynnwys, wrth gwrs, iaith a diwylliant, yn ogystal â’r economi a sialensiau cymdeithasol Cymru, ond mae pobol yn derbyn hynny fel rhan o beth ydy Cymru heddiw. ’Dan ni ddim yn gweld o fel problem. Mae’n un o adnoddau mawr Cymru a Phlaid Cymru, a fyddwn i’n sicr ddim, ar unrhyw adeg, yn troi ein cefnau ar iaith a diwylliant.
Mae Liz Saville-Roberts – Aelod Seneddol benywaidd cyntaf Plaid Cymru – wedi creu hanes yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd. Beth allwch chi ddweud amdani hi?
Dwi wrth fy modd yn gweld Liz Saville Roberts yn cynrychioli Plaid Cymru – y ferch gynta yn Nhŷ’r Cyffredin [i Blaid Cymru] ac mae merched wedi chwarae rhan flaenllaw iawn i Blaid Cymru yn yr etholiad yma, nid yn unig Liz yn ennill sedd ond Leanne fel arweinydd, a Rhuanedd [Richards] yn Brif Weithredwr y Blaid. Mae nifer o ymgeiswyr addawol iawn – Y Rhondda, Caerffili, Wrecsam… Mae cymaint ohonyn nhw wedi chwarae rhan flaenllaw a dw i’n falch o hynny. Dw i’n siŵr y bydd Liz yn Aelod Seneddol penigamp. O fynd o gwmpas ym Mhwllheli’r wythnos hon efo hi cyn y bleidlais a gweld y cynhesrwydd tuag ati hi o fewn y dre dwi’n nabod yn dda iawn, wrth gwrs wedi’i chynrychioli fy hun, dw i’n sicr y bydd hi’n llais diffuant, effeithiol dros etholaeth Dwyfor Meirionnydd a bydd hi yno, gobeithio, am flynyddoedd i ddod.
O ran y canlyniadau’n gyffredinol, faint o adlewyrchiad o’r canlyniadau posib y flwyddyn nesaf ydy’r canlyniadau yma heddiw? Oes ’na wersi i’w dysgu oddi wrthyn nhw?
Yn sicr ddigon. Dw i’n credu bod y proffil mae Plaid Cymru wedi sicrhau yn etholiad San Steffan, o dan amgylchiadau anodd yn y wasgfa rhwng y Torïaid a Llafur mewn cyd-destun Prydeinig, mae’r proffil mae Leanne yn fwy na neb wedi llwyddo i’w gael i Blaid Cymru am dalu ar ei ganfed pan ddaw i etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesa. ’Dan ni hefyd wedi gweld bod Llafur wedi methu amddiffyn Cymru rhag y llywodraeth Geidwadol yn Llundain ac mae gwersi o’r Alban fod rhaid i ni fod efo llywodraeth ein hunain sydd yn bositif, sydd yn hyderus, sydd isio arwain Cymru i lwyddiannau newydd, yna Plaid Cymru fydd yn arwain y ddadl mewn cyd-destun Cymreig mewn deuddeg mis.
Un o’r dadleuon cyson yw nad oes eisiau’r Ceidwadwyr yng Nghymru. Ond mae’r canlyniadau, wrth gwrs, yn awgrymu i’r gwrthwyneb mewn rhai ardaloedd….
Mae’r Torïaid wedi cael llwyddiannau mewn rhai rhannau o Gymru, ambell i un annisgwyl. Mae angen llongyfarch y rhai sydd wedi cael llwyddiant ond dw i ddim yn credu bod y Blaid Geidwadol yn adlewyrchu uchelgais a gwerthoedd pobol Cymru. Mae’n adwaith i’r sefyllfa yn San Steffan a ’dan ni’n gorfod byw efo hynny.