Gallai ymchwiliad gael ei gynnal i ba mor gywir oedd nifer o arolygon barn oedd yn awgrymu buddugoliaeth lawer llai i’r Ceidwadwyr dros Lafur.
Mae disgwyl i Gyngor Pleidleisio Prydain gynnal yr ymchwiliad ac ystyried rhagfarn honedig yn y gobaith o newid y drefn ar gyfer arolygon y dyfodol.
Roedd nifer o sylwebwyr gwleidyddol yn syfrdan wrth i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi neithiwr gan ddangos bod y Ceidwadwyr ymhell ar y blaen i Lafur.
Ychydig iawn o sylwebwyr oedd wedi darogan y byddai’r Ceidwadwyr yn ennill mwyafrif.
Mewn datganiad, dywedodd y Cyngor Pleidleisio: “Mae’n amlwg nad oedd y polau piniwn terfynol cyn yr etholiad mor fanwl gywir ag y byddem wedi hoffi, ac mae’r ffaith fod yr holl arolygon wedi tanbrisio blaenoriaeth y Ceidwadwyr dros Lafur yn awgrymu y dylid ymchwilio’n annibynnol y dulliau a gafodd eu defnyddio.”
Cadeirydd yr ymchwiliad fydd yr Athro Patrick Sturgis o’r Ganolfan Dulliau Ymchwil Genedlaethol, ac mae disgwyl i aelodau eraill y panel gael eu cyhoeddi’n fuan.