Nathan Gill o UKIP
Jamie Thomas sydd wedi bod yn sgwrsio â Nathan Gill o UKIP, y pumed mewn cyfres o erthyglau i golwg360 yn holi’r ymgeiswyr yn ras etholiadol Ynys Môn …

Mae ymgeisydd UKIP ar Ynys Môn wedi mynnu na fydd profiad yn cyfrif rhyw lawer pan fydd e’n ceisio herio deiliaid y sedd, Albert Owen, yr wythnos nesaf.

Fe enillodd gwleidydd Llafur y sedd yn 2001 ac mae wedi ei dal hi ers hynny, ond mae Nathan Gill yn gobeithio’i herio y tro hwn yn yr etholaeth.

Ac fe ddywedodd arweinydd UKIP yng Nghymru mai’r broblem gydag ASau’r dyddiau hyn yw eu bod nhw’n treulio gormod o amser yn ymddwyn fel “gweithwyr cymdeithasol gogoneddus” a dim digon o amser ar ddeddfau.

“Ers y 1970au mae ein ASau yn gwneud llai a llai o ddeddfu a mwy o’r gwaith cymdeithasol,” meddai Nathan Gill.

“Dyw’r ffaith mod i ddim yn dod mewn i’r [etholiad] hyn fel deiliad y sedd ddim yn bwysig un ffordd neu’r llall.

“Yr hyn sy’n bwysig yw’r hyn mae ein pleidiau gwleidyddol yn ei gynnig – mae llawer iawn o bleidleisiau yn y math yma o etholiad ar gyfer yr unigolyn, ond dydw i ddim yn credu bod hynny’n bwysig.

“Nid yw’r rhan fwyaf o bobl wedi cyfarfod Albert Owen, nid yw’r rhan fwyaf o bobl wedi cwrdd â mi, felly maent yn mynd i fod yn pleidleisio ar yr hyn y maent yn meddwl y gall y pleidiau wneud ar gyfer y wlad yn ogystal ag ar gyfer yr etholaeth yn lleol.”

Twristiaeth yn allweddol

Un o’r materion mae pob ymgeisydd ar gyfer Ynys Môn wedi dweud y byddan nhw’n ceisio ei sicrhau ydi swyddi ar gyfer pobl ifanc.

Mae neges Nathan Gill yr un fath, ond mae’n nodi hefyd bod y diwydiant twristiaeth yn rhywbeth y mae angen ei hyrwyddo.

“Mae angen cael trafodaeth rydd ac agored am ddod â gwaith i fan hyn a beth fyddai hynny’n ei olygu ar gyfer y cymunedau trefol a gwledig ar yr ynys,” medai ymgeisydd UKIP.

“Dw i’n credu hefyd mai un o’r diwydiannau mwyaf sydd gennym ar yr ynys ar hyn o bryd yw twristiaeth. Rwy’n synnu’n fawr eu bod wedi cau’r ganolfan groeso yn Llanfair PG yn ddiweddar.

“Er mwyn arbed ychydig geiniogau yma ac acw, mae hynny’n cael effaith ar lawer o bobl – mae angen i ni edrych ar ein cryfderau ac adeiladu arnynt er mwyn i Ynys Môn fod yn llwyddiant.”

Mynnu bod yn wahanol

Er bod y blaenoriaethau y mae’n eu rhestru yn debyg i’r ymgeiswyr eraill ar yr ynys, mae Nathan Gill yn mynnu bod UKIP yn cynnig gobaith gwahanol iawn o’i gymharu â’r pleidiau eraill.

“Nawr mae pob un o’r sgyrsiau yn y rhan fwyaf o etholiadau yn ymwneud ag Ewrop, hefyd mewnfudo, ac ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd – yr holl bethau nad oedd unrhyw un yn siarad amdanyn nhw cyn UKIP,” meddai.

“Mae’n mynd i fod yn glymblaid felly unwaith mae hynny’n digwydd beth bynnag a ddywedir ar hyn o bryd ni fydd ots, oherwydd yr unig beth mae’r pleidiau eraill yn poeni amdano ydi grym.

“Felly byddan nhw’n gwneud ac yn delio â phwy bynnag mae’n rhaid iddyn nhw er mwyn sicrhau hynny – ni fyddwn ni’n gwneud hynny a dyna pam ein bod ni’n wahanol.”

Mae Nathan Gill hefyd yn mynnu bod canfasio UKIP yn awgrym bod y rhod yn troi yn Ynys Môn a Chymru yn erbyn pleidiau fel Llafur a Phlaid Cymru.

“Ardal Llafur yn amlwg ydi Cymru’n bennaf, mae wedi bod ers degawdau. Yn ôl yr hen ddywediad, os rhowch chi roséd Llafur ar gefn asyn bydd pawb yn pleidleisio ar ei gyfer beth bynnag,” meddai.

“Dydyn ni ddim yn gweld hynny yn y Cymoedd, ddim yng Nghaerdydd, ddim yn y Gogledd. Mae newid ar droed ac mae pobl wirioneddol yn cwestiynu’r rhesymau pam eu bod yn pleidleisio, a ddim jyst yn pleidleisio’r un ffordd bob amser.”

Bydd Jamie Thomas yn siarad â’r holl ymgeiswyr yn etholaeth Ynys Môn yn ystod yr ymgyrch.

Gallwch ddarllen ei sgwrs â’r ymgeisydd UKIP Nathan Gill yma, ei sgwrs â’r ymgeisydd Ceidwadol Michelle Willis yma, ei sgwrs ag ymgeisydd Plaid Cymru John Rowlands yma, a’i sgwrs ag ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol Mark Rosenthal yma.