Amelia Jones
Mae dyn wedi cael ei garcharu am oes am lofruddio ei wyres bum wythnos oed.

Roedd Mark Jones, 45, wedi ymosod ar ei wyres Amelia Jones tra’n ei gwarchod fel bod ei mam, Sarah Jones, 26, yn cael mynd i’r sinema.

Bydd yn rhaid i Mark Jones dreulio o leiaf 25 mlynedd dan glo.

Wrth ei ddedfrydu i garchar am oes heddiw dywedodd y barnwr Wyn Williams nad oedd Jones wedi dangos unrhyw edifeirwch am ei weithredoedd “erchyll a ffiaidd”.

Dywedodd wrth Jones: “Mae’n bosib na fyddwch chi fyth yn cael eich rhyddhau o’r carcharu neu os ydych chi, mi fyddwch chi yn ddyn hen iawn.”

Mewn datganiad dywedodd ei ferch Sarah Jones bod y digwyddiad wedi “difetha ei bywyd”.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd bod Jones wedi ffonio ei ferch cyn galw 999 ar ôl i Amelia stopio anadlu.

Roedd meddygon wedi darganfod ei bod wedi dioddef o waedlif mawr ar ei hymennydd a bod ganddi anafiadau i’w phenglog, asennau a’i choes.

Bu farw deuddydd yn ddiweddarach yn yr ysbyty yn 41 diwrnod oed.

Mae arbenigwyr yn credu ei bod wedi cael ei tharo ar ei phen ac wedi cael ei hysgwyd.

Roedd Jones wedi honni bod marwolaeth Amelia yn ddamwain drasig a’i fod wedi ei gollwng ar ddau achlysur.

Ond clywodd y llys bod Mark Jones wedi twyllo ei ferch Sarah Jones gan ddweud wrthi ei fod yn dioddef o ganser.

Yn ôl yr erlyniad, roedd Mark Jones wedi dweud celwydd yn gyson. Roedd wedi ceisio rhoi’r bai am farwolaeth ei wyres ar bobol eraill ac fe wnaeth o hefyd honni am dros flwyddyn fod ganddo salwch tymor hir.

Roedd hefyd wedi cymryd arno ei fod y gorfod defnyddio baglau yn sgil y driniaeth honedig.

Trwy gydol yr achos, roedd yn honni mai damwain oedd marwolaeth ei wyres.