Mae miloedd o gyn-weithwyr siopau Woolworths ac Ethel Austin, sydd wedi mynd i’r wal, wedi colli brwydr hir am iawndal.

Mae Llys Cyfiawnder Ewrop wedi dyfarnu na ddylai 3,200 o gyn weithwyr Woolworths a 1,200 o staff  Ethel Austin dderbyn ceiniog.

Nid oedd y gweithwyr yn gymwys i hawlio iawndal oherwydd eu bod yn gweithio mewn canghennau oedd yn cyflogi llai na 20 o staff.

Dywedodd yr undeb sy’n cynrychioli’r gweithwyr eu bod wedi “torri eu calonnau” wrth glywed am ddyfarniad y llys.

Bu Undeb Usdaw yn ymladd am iawndal ers i Woolworths fynd i’r wal yn 2008, a siop  Ethel Austin bum mlynedd yn ôl.

‘Annheg’

Dan gyfraith y DU, roedd gweithwyr mewn siopau llai yn cael eu heithrio o unrhyw iawndal.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Usdaw John Hannett, “Mae’r dyfarniad yn nodi diwedd y gân i’n haelodau o Woolworths ac Ethel Austin, sydd wedi mynnu cyfiawnder ac y maent wedi torri eu calonnau gan y dyfarniad heddiw.”

Ychwanegodd: “Mae ein hachos yn gwbl foesol a rhesymegol, ac mae’r dyfarniad yn ergyd. Mae’n annheg ac nid yw’n gwneud  synnwyr fod gweithwyr mewn siopau gyda llai na 20 o weithwyr yn cael eu hatal rhag hawlio iawndal, ble mae eu cydweithwyr mewn siopau mwy yn gallu hawlio arian.”