Y difrod yn Nepal
Mae timau achub wedi tynnu bachgen 18 oed yn fyw o’r rwbel bum niwrnod ar ôl y daeargryn yn Nepal.

Bu tȋm achub USAID yn gweithio yn ddygn ar y safle dros nos yn ceisio rhyddhau’r bachgen a oedd wedi’i gladdu dan ddau lawr concrid a bu’n rhaid symud y lloriau yn ofalus gan beiriannau er mwyn cyrraedd ato.

Roedd na dorf yn cymeradwyo pan gafodd ei dynnu o’r rwbel. Yn ôl llygad dystion, roedd wyneb y llanc wedi’i orchuddio mewn llwch ac fe ymddangosodd dan syfrdan wrth iddo gael ei ddallu gan yr heulwen.

Roedd canfod y bachgen yn newyddion da prin ynghanol y dinistr sydd wedi taro’r ardal ers y daeargryn ddydd Sadwrn, sydd wedi lladd 5,500 o bobl yn Nepal.