Leanne Wood
Fe fydd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn teithio o amgylch de Cymru heddiw i geisio ennyn pleidleisiau munud olaf mewn tair sedd darged Llafur.

Mae disgwyl iddo ymweld ag ardaloedd Gogledd Caerdydd a Bro Morgannwg, sy’n seddi Ceidwadol ar hyn o bryd, yn ogystal ag etholaeth Canol Caerdydd sy’n un o seddi’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae arweinydd y blaid Lafur, Ed Miliband, wedi dweud heddiw y byddai’r llywodraeth Lafur yn “rhoi teuluoedd sy’n gweithio yn gyntaf”.

Ceidwadwyr

Fe fydd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, yn dweud wrth bleidleiswyr fod polisïau economaidd y Torïaid wedi creu 20,000 o swyddi gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Ar ymweliad a Chaerdydd, fe fydd yn dweud bod Cymru wedi gweld adfywiad rhyfeddol mewn gweithgynhyrchu dros y pum mlynedd diwethaf, ond bod y Ceidwadwyr am fynd hyd yn oed ymhellach.

Plaid Cymru

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn paratoi at ymdrech olaf i ddenu pleidleiswyr wrth iddi ymddangos ar raglen deledu arbennig ar y BBC heno.

“Nid yw Cymru yn genedl ail ddosbarth – rydym yn gwrthod gadael i bleidiau San Steffan barhau i’n trin yn y fath fodd,” meddai.

Daw wedi i Blaid Cymru ddweud y byddai torri’r rhwystrau rhwng Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol yn lleihau rhestrau aros ac yn cryfhau’r Gwasanaeth Iechyd.

Democratiaid Rhyddfrydol

Mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y penawdau heddiw am ddatgelu bod y Ceidwadwyr wedi bwriadu torri £8 biliwn ychwanegol yn 2012.

Bydd aelodau eraill o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn canolbwyntio ar gynllun chwe phwynt i greu mwy o gyfleoedd i ferched.

Mae’r cynigion yn cynnwys herio stereoteipiau rhyw, cau’r bwlch cyflog rhwng dynion a merched a chymryd camau ar draws y byd yn erbyn Llurguniad Organau Rhywiol Merched (FGM).

Gwyrddion

Prif neges y Gwyrddion yng Nghymru heddiw yw mai llywodraeth o’r Gwyrddion, Plaid Cymru a’r SNP yw “dyfodol gwleidyddiaeth”.

Mae’r arweinydd Natalie Bennet hefyd wedi ail-gyhoeddi maniffesto’r blaid ar gyfer pobol ifanc ar ei chyfrif trydar.

UKIP

Fe gyhoeddodd un o gynghorwyr Llafur yng Ngelligaer, Caerffili Bill Griffiths ei fod yn troi at UKIP neithiwr. “Nid yw’r blaid Lafur yn blaid dros y bobol mwyach,” meddai’r cynghorydd.

Fe fydd y blaid yn dweud mai dim ond UKIP fydd yn medru rheoli mewnfudo ac y bydden nhw’n gwneud hynny gyda system bwyntiau.

Question Time a Pawb a’i Farn

Heno am 8.00yh fe fydd rhaglen arbennig o Question Time ar y BBC gydag arweinydd Llafur, Ed Miliband, y Prif Weinidog David Cameron, ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg yn cael eu holi ar wahân gan y gynulleidfa.

Fe fydd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, Nigel Farage o UKIP, a Nicola Sturgeon o’r SNP yn cymryd rhan mewn darllediadau ar wahân yng Nghymru, yr Alban a Lloegr.

Bydd rhaglen arbennig o Pawb a’i Farn hefyd yn cael ei darlledu ar S4C heno am 9.30yh.