Leanne Wood
Mae angen creu pwerdy economaidd yng Ngogledd Cymru ar ôl blynyddoedd o Lafur yn dangos “diffyg diddordeb” mewn ariannu’r rhanbarth, yn ôl Leanne Wood.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru nad oedd y gogledd wedi teimlo’r buddiannau ers datganoli, wrth iddi ddadorchuddio cynlluniau ei phlaid hi i wella’r cysylltiadau rhwng Gogledd a De Cymru.
Roedd y rheiny’n cynnwys gwella ffyrdd a rheilffyrdd y gogledd yn lle rhoi cymaint o arian tuag at wella’r M4 yn y de, a sefydlu prifddinasoedd arbenigol ar hyd a lled y wlad.
“All Plaid Cymru ddim cyfiawnhau gwario’r holl arian y mae Cymru yn cael benthyg ar wella’r M4,” mynnodd Leanne Wood wrth siarad mewn darlith ym Mhrifysgol Bangor heddiw.
“Mae ‘na lwyth o brosiectau yng Nghymru sydd yn haeddu buddsoddiad mwy na hwnna.
“Mae llwyddiant y gogledd yn hanfodol i ddyfodol Cymru – hebddo fo ni all Cymru symud ymlaen. Mae diwrnodau gorau’r ardal o’i flaen o. Allwn ni ddim parhau i anwybyddu asedau’r gogledd.”
Prifddinasoedd arbenigol
Cyhuddodd Leanne Wood lywodraeth Prydain o ganolbwyntio gormod ar y de yn y gorffennol, gan ddweud fod hynny’n gamgymeriad na ddylai gael ei ailadrodd.
“Ni allwn ni fforddio ailadrodd camgymeriadau llywodraeth y DU o ganoli grym a buddsoddi mewn un cornel ar draul y gweddill,” meddai arweinydd Plaid Cymru.
Yn y ddarlith fe ddywedodd Leanne Wood hefyd fod gan ei phlaid gynllun i wella proffil trefi yng ngogledd y wlad drwy hyrwyddo ‘prifddinasoedd’ arbenigol yn y gogledd a’r de.
“Byddwn yn ymgynghori ar sut y gellir cyflawni hyn ac yn cyhoeddi ein cynlluniau ym maniffesto Etholiad y Cynulliad flwyddyn nesaf,” cyhoeddodd Leanne Wood.
“Ein gweledigaeth yw cael canolfannau poblogaeth ar draws Cymru, yn enwedig yn y gogledd, er mwyn elwa o fod yn brifddinasoedd diwylliant, celf neu gyllid.”
Bargen decach i Gymru
Mynnodd Leanne Wood, sydd wedi galw i Gymru gael ei chyllido ar yr un lefel â’r Alban, nad oedd hi’n afrealistig gofyn i Lywodraeth San Steffan am fwy na’r £16bn sydd yn cael ei anfon i Gaerdydd ar hyn o bryd.
“Rydyn ni’n gofyn am £1 biliwn arall er mwyn sicrhau’r cyllid i ddatblygu prosiectau eraill,” meddai.
“Y cyfan rydyn ni’n gofyn amdano yw cydraddoldeb o adnoddau, dyna i gyd. Rydyn ni eisio diwedd i lymder a dealltwriaeth fod yn rhaid i ni gael y cydbwysedd yn iawn i bawb yng Nghymru.”
Mynnodd hefyd bod angen delio â’r anghydbwysedd economaidd ym Mhrydain, gan ymosod hefyd ar doriadau i addysg a chyrsiau rhan amser, a dweud ei bod hi’n gobeithio gweld yr oedran bleidleisio yn cael ei ostwng yn y dyfodol.
“Rydw i’n pwysleisio i’r bobl iau yn y gynulleidfa i wneud yn siŵr bod eu barn yn cael ei glywed,” ychwanegodd Leanne Wood.
“Rydyn ni’n gobeithio mai’r etholiad cynulliad nesaf fydd yr un olaf lle na all pobl ifanc 16 oed bleidleisio.
“Mae gan Blaid Cymru weledigaeth o Gymru sy’n gyfiawn yn gymdeithasol, yn deg i bob ardal o safbwynt economaidd ac yn uno’r gogledd a’r de y tu ôl i achos cyffredin.”
Stori: Jamie Thomas