Ffoaduriaid ym Mor y Canoldir
Mae arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd sy’n cwrdd ym Mrwsel wedi ymrwymo i roi rhagor o adnoddau i achub bywydau ym Mor y Canoldir ar ôl i gannoedd o ffoaduriaid farw.
“Y peth pwysicaf ydy ein bod ni’n achub bywydau ac yn cymryd y mesurau cywir i wneud hynny,” meddai Canghellor yr Almaen, Angela Merkel wrth gyrraedd y gynhadledd.
Y gobaith yw y bydd y 28 o wledydd yn yr UE yn rhoi addewid i ddyblu eu gwariant i achub bywydau drwy gynyddu’r gwasanaethau chwilio ac achub, ac i wneud ymdrech i adnabod, a dinistrio cychod sy’n cael eu defnyddio gan y rhai sy’n masnachu mewn pobl.
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi cyhoeddi y bydd Prydain yn cyfrannu un o longau’r llynges, ynghyd a thri hofrennydd a dwy long batrôl, tuag at ymdrechion yr Undeb Ewropeaidd.
“Gan mai ni yw’r wlad sydd a’r cyllid amddiffyn mwyaf yn Ewrop mae modd i ni wneud cyfraniad sylweddol,” meddai cyn ychwanegu na fyddai hynny’n cynnwys derbyn cyfran o’r ffoaduriaid sy’n ceisio lloches yn Ewrop.
Mae’r Almaen a Gwlad Belg hefyd wedi dweud y byddan nhw’n anfon llongau milwrol i For y Canoldir.
Ond er gwaetha’r mesurau brys heddiw mae rhai yn rhybuddio nad yw’n ddigon i atal y llif o ffoaduriaid o Ogledd Affrica rhag ceisio croesi Mor y Canoldir tuag Ewrop.
Amcangyfrifir bod hyd at 1,000 o bobl wedi marw yn ystod mis Ebrill yn unig.