Carwyn Scott-Howell
Bu farw bachgen saith oed o Bowys wedi iddo ddisgyn o ochr clogwyn uchel tra ar wyliau sgïo, clywodd cwest.

Roedd Carwyn Scott-Howell o Dalybont-ar-Wysg ger Aberhonddu ar wyliau gyda’i deulu ym mhentref Flaine yn yr Alpau pan ddisgynnodd o uchder mawr ar 10 Ebrill.

Ar ddechrau’r wythnos, fe gyhoeddwyd bod ymchwiliad wedi dweud nad oedd Carwyn Scott-Howell wedi marw o ganlyniad i esgeulustod.

Yn ôl yr erlynydd, ‘damwain drasig’ oedd ei farwolaeth.

Heddiw yn Llys Crwner Gwent, fe wnaeth y Dirprwy Grwner Wendy James agor a gohirio’r cwest i’w farwolaeth.

Mae’r awdurdodau yn Ffrainc wedi dechrau ymchwiliad i’r digwyddiad.