Mae swyddogion heddlu sy’n ymchwilio i gannoedd o danau gwair bwriadol yn y de wedi arestio 11 person.
Daeth rhai troseddwyr at yr heddlu o’u gwirfodd, yn ôl swyddogion.
O’r rhai gafodd eu harestio, dywedodd Heddlu’r De bod un oedolyn wedi cael ei gyhuddo a dau blentyn wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth.
Ers 1 Ebrill, mae Gwasanaeth Tan y De wedi gorfod delio a bron i 700 o dannau bwriadol sydd ar gyfartaledd yn fwy na 30 o danau’r diwrnod.
Mae’r ymchwiliad yn parhau i geisio dod o hyd i naw troseddwr arall yn ardal Rhondda Cynon Taf sy’n cael eu hamau o gynnau’r tanau bwriadol – saith o’r rheiny yn blant.
Yr wythnos nesa’, fe fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfarfod i drafod y nifer uchel o danau gwair bwriadol sydd wedi cael eu cynnau yn ne Cymru dros yr wythnosau diwetha’.