Nathan Gill
Jamie Thomas sydd wedi bod yn sgwrsio â Nathan Gill o UKIP, yn y cyntaf mewn cyfres o erthyglau i Golwg360 yn holi’r ymgeiswyr yn ras etholiadol Ynys Môn.
Mae ymgeisydd UKIP ar Ynys Môn wedi mynnu fod yr etholaeth yn un o’r nifer o seddau y gallai ei blaid ennill yng Nghymru ar noson yr etholiad.
Dywedodd Nathan Gill, sydd yn Aelod Seneddol Ewropeaidd ac yn arwain UKIP yng Nghymru, nad oes unrhyw bwysau arno i ennill sedd Ynys Môn a’i fod yn edrych ymlaen at y frwydr yng Nghymru.
“Rydyn ni’n dod i’r etholiad hwn gyda dim Aelodau Seneddol yng Nghymru, felly rydyn ni’n gwerthfawrogi ei fod yn mynd i fod yn dasg anodd i ni ledled Cymru,” cyfaddefodd Nathan Gill.
“Dydyn ni ddim yn wirion, rydyn ni wedi cydnabod y sefyllfa wrth gwrs. [Ond] bob tro rydyn ni wedi sefyll mewn unrhyw sedd yng Nghymru, rydyn ni wedi cynyddu ein pleidlais.
“Rydyn ni’n credu bod yna lawer o seddi allwn ni ennill ac mae Ynys Môn yn un ohonyn nhw – ar hyn o bryd gallai fod yn ras dair ffordd rhyngom ni, Plaid Cymru a Llafur, felly pwy a ŵyr.”
Etholiad Ewrop yn codi gobeithion
Cafodd Nathan Gill ei ddewis fel arweinydd UKIP yng Nghymru ym mis Rhagfyr, ac mae’n credu bod perfformiad nodedig ei blaid yn etholiadau Ewrop yn 2014 yn argoeli’n dda ar gyfer yr etholiad cyffredinol eleni.
“Rwy’n credu bod llynedd yn wirioneddol brawf o hynny oherwydd ein bod ni wedi dod mor agos at ennill yng Nghymru, o fewn 4,300 o bleidleisiau,” meddai Nathan Gill.
“Daeth hynny yn syndod mawr i bawb, gan gynnwys ni ein hunain.
“Roedden ni’n gwybod ein bod ni’n mynd i wneud yn dda, roedd yr ymateb gawson ni’n bositif iawn, ond doedden ni ddim yn credu ei fod am arwain at yr hyn a gyflawnwyd gennym, ac rydyn ni’n cael yr un math o ymatebion erbyn hyn a gawson ni bryd hynny.
“Dydyn ni ddim yn gwybod, wrth gwrs, does neb yn gwybod sut y mae o i gyd yn mynd i droi allan ond rydyn ni’n hyderus iawn oherwydd y tebygrwydd rhwng canfasio llynedd ac eleni.”
Diystyru clymbleidio
Dywedodd Nathan Gill, sydd yn byw yn Llangefni, ei fod yn credu bod UKIP wedi cael budd sylweddol o “nodi eu stondin” yn gynnar o safbwynt clymbleidio, gyda’u harweinydd Nigel Farage yn diystyru hynny’n gynnar iawn.
Mynnodd ymgeisydd UKIP bod clymbleidiau yn syniad drwg oherwydd ei fod yn credu eu bod yn caniatáu i bleidiau wneud “addewidion gwirion” yr oedden nhw’n gwybod na fyddai’n rhaid iddyn nhw wireddu, ac mai maniffesto UKIP oedd yr unig un oedd pobl yn medru ymddiried ynddo.
Ac mae erthyglau ym mhapurau’r Guardian, Daily Mail a’r Daily Mirror wedi canmol gonestrwydd maniffesto UKIP yn yr wythnosau diwethaf, gan ddweud ei fod yn y tir canol rhwng polisïau Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr.
“Mae’r pleidiau eraill yn gwybod unwaith y byddan nhw’n mynd mewn i glymblaid y gallan nhw ddweud, fel gwnaeth y Ceidwadwyr gyda’u haddewidion nhw, fod y blaid arall ddim yn gadael iddyn nhw wneud hynny ac yn y blaen,” meddai Nathan Gill.
“Maen nhw’n cael ffordd allan cyn iddyn nhw hyd yn oed ddechrau, ac maen nhw’n gwybod mai ni yw’r unig blaid sydd â maniffesto sydd wedi cael ei wirio’n annibynnol.
“Ers i ni ryddhau ein maniffesto does neb wedi tynnu unrhyw dyllau ynddo o gwbl. Mae dau sefydliad dibynadwy wedi cefnogi gwahanol rannau ohono – ein hadran pensiynau a thai.”
Y polau’n anghywir
Mae’r polau piniwn wedi dangos cefnogaeth UKIP yn cynyddu rhyw ychydig yn ystod y dyddiau diwethaf, gyda pholau amrywiol yn eu rhoi nhw rhywle rhwng 10% a 15% o’r gefnogaeth.
Yn ôl Nathan Gill, mae hynny oherwydd bod y cwmnïau polau ddim eisiau edrych yn wael pan fydd y blaid yn gwneud yn well na’r disgwyl ar 7 Mai.
“Yn ddiddorol, wrth i ni fynd yn nes at yr etholiad, rydyn ni’n dechrau codi cryn dipyn yn y polau eto,” meddai Nathan Gill.
“Rydw i’n meddwl bod y pollsters wedi addasu’r neges, oherwydd dydyn ni ddim wedi symud o gwbl mewn gwirionedd o ran beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud.
“Os ydyn nhw’n dweud ein bod ni ar 12% neu 15% neu beth bynnag, ac rydyn ni yn y pen draw yn cael 20%, maen nhw’n mynd i edrych yn wael, felly rydyn ni’n gweld llawer o’r polau yn dechrau symud eto.
“Yn y pen draw i gyd y gallwn ni ddibynnu arno yw beth mae pobl yn ei ddweud wrthym ni, ac rydyn ni’n hyderus iawn yng Nghymru oherwydd ein bod yn cael ymatebion positif.”
Bydd Jamie Thomas siarad â’r holl ymgeiswyr eraill yn etholaeth Ynys Môn yn ystod yr ymgyrch.