Mae ‘I Grombil Cyfandir Pell’ yn adrodd hanes y cerddor Gruff Rhys ar daith i America
Fe fydd rhai o oreuon byd cyfryngau’r gwledydd Celtaidd yn cael eu gwobrwyo ar ddechrau gŵyl flynyddol yn Inverness sy’n dechrau heddiw.

Mae’r Ŵyl Gyfryngau Celtaidd yn dathlu ei phen-blwydd yn 33 oed eleni, ac mae nifer o gynyrchiadau o Gymru wedi’u cynnwys ar y rhestr fer ar gyfer y seremoni wobrwyo gyntaf y prynhawn yma.

Y categorïau fydd yn cael eu gwobrwyo heddiw yw’r Celfyddydau, Animeiddio, Ap, Plant, Adloniant a Chwaraeon.

Mae ‘I Grombil Cyfandir Pell’ yn cynrychioli Cymru yn y categori cyntaf, ac mae’n adrodd hanes y cerddor Gruff Rhys ar daith i America i olrhain hanes un o’i gyndadau, John Evans.

Gadawodd Evans Gymru yn 1792 i fynd i chwilio am lwyth brodorol oedd yn medru’r Gymraeg, gan ail-ymddangos saith mlynedd yn ddiweddarach yn defnyddio’r enw Don Juan Evans.

Animeiddio

Yn y categori ‘Animeiddio’, mae enwebiad i ‘The Hunchback in the Park’, cynhyrchiad y BBC o un o gerddi Dylan Thomas fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant geni’r bardd o Abertawe.

Cafodd y darllediad ei lansio gan BBC Cymru ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, ac mae’r gerdd yn cael ei hadrodd gan yr actor Michael Sheen fel rhan o animeiddiad unigryw gan gwmni Aardman i gyfeiliant cerddoriaeth John Hardy sy’n cael ei pherfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Cymru.

Ap

Cafodd ‘ap’ BBC Cymru Fyw ei lansio i gyd-fynd â gwasanaeth llif newyddion byw newydd yn 2014, ac mae wedi’i enwebu yng nghategori’r ‘Ap’ gorau.

Mae’r ap yn cynnwys blog dyddiol, prif newyddion y dydd, adrannau gwleidyddiaeth a chylchgrawn a chwaraewr byw ar gyfer Radio Cymru.

Plant

Yng nghategori’r Plant mae ‘Wizards vs Aliens’, cyfres ddrama ffuglen wyddonol sy’n olrhain hanes dau gyfaill sy’n ceisio achub y byd rhag cymeriadau arallfydol.

‘Dim Byd’, sef rhaglen sy’n gwneud hwyl am ben rhaglenni eraill sydd wedi’i enwebu yng nghategori ‘Adloniant’. Nid actorion sy’n cymryd rhan yn y gyfres, ond pobol go iawn mewn sefyllfaoedd go iawn.

Brwydr bersonol un o sêr y byd pêl-droed yn erbyn canser a gawn yn ‘Big John – The John Hartson Story’. Bum mlynedd yn ôl, roedd Hartson mewn perygl o golli ei frwydr yn erbyn canser y ceilliau ar ôl i’r canser ledu i’w ymennydd. Yn y rhaglen, mae Hartson yn dychwelyd i weld y meddygon oedd wedi achub ei fywyd er mwyn trafod ei sefyllfa. Mae’r gyfres hefyd yn trafod brwydr arall yn erbyn gamblo.

Mae’r seremoni wobrwyo’n dechrau am 4 o’r gloch, ac mae modd dilyn y cyfan ar y ffrwd Twitter.