David Cameron ac Alex Salmond
Ifan Morgan Jones sy’n edrych ymlaen i’r etholiad ddod i ben, fel bod y dadlau yn gallu dechrau o ddifri’…

Petai’r etholiad yn gêm bel droed, fe fyddai’r Blaid Lafur bellach yn chwarae am giciau o’r smotyn – gan obeithio y byddai modd ennill grym yn y trafodaethau clymbleidio ar ôl 7 Mai.

Roedd y Ceidwadwyr wedi disgwyl bod gôl neu ddwy ar y blaen erbyn hyn, gan gredu eu bod nhw ar bapur yn well tîm, a bod capten y tîm arall yn chwaraewr gwaeth nag ydoedd.

Serch hynny, maent wedi chwarae yn ddifflach, nid yw’r tactegau wedi talu eu ffordd, ac maen nhw’n prysur redeg allan o syniadau.

Eu gobaith mawr nhw yw y bydd rhywbeth mawr yn digwydd i newid y gêm – er enghraifft, tryblith ym mharth yr Ewro wrth i Wlad Groeg agosáu unwaith eto at adael.

Nid yw pêl droed yn drosiad gwbl addas wrth gwrs, gan fod sawl chwaraewr bellach ar y cae. Ond fel y mae Llafur a’r Ceidwadwyr yn hoff o’m hatgoffa, dim ond Miliband neu Cameron all fod yn Brif Weinidog.

Ar hyn o bryd mae Miliband mewn safle llawer grymusach yn hynny o beth oherwydd bod yr SNP, sy’n debygol o fod y drydedd blaid fwyaf ar ôl yr etholiad, yn ymbil am gytundeb ag o.

Gall Llafur hefyd alw ar gymorth Plaid Cymru, yr SDLP a’r Gwyrddion, sy’n debygol o ddarparu tua 7 sedd arall rhyngddynt.

Gall Cameron geisio sicrhau cefnogaeth UKIP (a allai ar noson wael sicrhau un AS yn unig), yr UUP, DUP,  ac efallai Alliance a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Y broblem wrth gwrs yw bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn disgwyl colledion sylweddol – ac nid oes unrhyw sicrwydd na fyddai yn well ganddynt ochri gyda’r Blaid Lafur beth bynnag.

Un arf sylweddol sydd gan Cameron serch hynny yw cefnogaeth y wasg Lundeinig. Maen nhw’n debygol iawn o godi stŵr wrth geisio sicrhau ei fod yn parhau yn Brif Weinidog.

Pe bai’n sicrhau’r mwyafrif o seddi, bydd y papurau yn gwawdio clymblaid Miliband gyda’r enw ‘Coalition of Losers’.

Fel y mae profiad Al Gore yn dilyn etholiad Arlywyddol UDA 2000 yn ei ddangos, gall gefnogaeth y cyfryngau tuag at un ymgeisydd fod yn hollbwysig os yw’r canlyniad yn ansicr.

O ganlyniad, os nad yw’r polau piniwn yn dechrau symud yn amlwg o blaid y Ceidwadwyr yn fuan, mae’n bosib y bydd eu hymgyrchoedd yn dechrau newid.

Nid ‘pleidleisiwch i sicrhau mwyafrif i ni’ fydd cri’r Ceidwadwyr, ond yn hytrach bod clymblaid o gollwyr, sy’n ddibynnol ar gefnogaeth plaid sydd am chwalu’r DU, yn warth – ac y dylen nhw gael teyrnasu eto, mwyafrif ai peidio.