Fe fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfarfod i drafod y nifer uchel o danau gwair bwriadol sydd wedi cael eu cynnau yn ne Cymru dros yr wythnosau diwetha’.
Bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn cwrdd â chyrff allweddol yr wythnos nesa’ i lunio “rhaglen weithredu eglur” ar gyfer y tymor byr, canolig a hir.
Ers 1 Ebrill, mae Gwasanaeth Tan y De wedi gorfod delio a bron i 700 o dannau bwriadolsydd ar gyfartaledd yn fwy na 30 o danau’r diwrnod.
Mae pedwar o blant rhwng 12 ac 14 oed wedi cael eu harestio yn Y Maerdy yn Rhondda Cynon Taf nos Sul ar amheuaeth o gynnau rhai o’r tanau. Maen nhw wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad ar y gweill.
Peryglu bywydau
Dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews mewn datganiad: “Ni ddylem fod mewn sefyllfa o’r fath. Mae cychwyn tân glaswellt yn drosedd.
“Mae’n rhoi pobol mewn perygl – diffoddwyr tân ac aelodau o’r cyhoedd fel ei gilydd. Mae hynny heb sôn am y niwed i fywyd gwyllt, da byw a’r amgylchedd, a’r gost sylweddol i bwrs y wlad yn sgil ymdrin â’r tanau hyn.
“Mae gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig i’w chwarae hefyd. Mae angen i ni gyd-drefnu’r camau sy’n cael eu cymryd ar draws y Llywodraeth, y Gwasanaeth Tân, yr Heddlu, ysgolion, awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru. Felly, byddaf i a’r Prif Weinidog yn cynnal cyfarfod gyda’r cyrff allweddol i drafod hyn a llunio rhaglen weithredu eglur a chyd-gysylltiedig yn y tymor byr, canolig a hir.”