Llys y Goron Casnewydd
Roedd dyn sy’n cael ei gyhuddo o lofruddio ei wyres fach bum wythnos oed wedi methu a dweud wrth yr heddlu pan gafodd ei holi ei fod wedi llewygu tra roedd yn gafael ynddi.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd bod Mark Jones o Gwmbrân wedi gollwng ei wyres Amelia Jones ddwywaith – unwaith ar ôl iddo faglu ar degan, a’r ail waith ar ôl llewygu tra’n gwarchod y babi yn nhŷ ei mam ym Mhontnewydd.
Bu farw Amelia Jones ar ol cael gwaedlif ar ei hymennydd ac anaf i’w phenglog.
Mae Mark Jones yn gwadu ei llofruddio.
Wedi iddo lewygu, fe ddywedodd Mark Jones ei fod wedi ffonio mam Amelia Jones, Sarah, yn hytrach na ffonio 999.
Cafodd ei holi gan yr erlynydd pam na roddodd wybod i’r parafeddygon bod Amelia Jones wedi disgyn – gwybodaeth a allai fod wedi bod yn hanfodol iddyn nhw, meddai.
“Hyd y gwyddoch chi, fe allai hynny fod wedi achub ei bywyd. Ond ni ddywedoch chi’r un gair,” meddai’r erlynydd Paul Lewis QC.
Clywodd y llys bod Mark Jones hefyd wedi cadw’n ddistaw am y digwyddiad wrth gael ei holi gan yr heddlu yn dilyn marwoaleth Amelia Jones ym mis Tachwedd 2012.
Mae’r achos yn parhau.