Llys y Goron yr Wyddgrug
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug mae’r achos wedi dechrau yn erbyn saith o ddynion sydd wedi eu cyhuddo o fod yn rhan o grŵp o bedoffiliaid a oedd yn targedu bechgyn ifanc yn ardal Wrecsam yn y 1970au a’r 80au.

Clywodd y rheithgor fod un o’r diffynyddion, y reslwr proffesiynol, Gary Cooke, 64, o Gaerlŷr, yn ganolog yn y grŵp a oedd yn cam-drin bechgyn ifanc mewn partïon.

Honnir bod y bechgyn wedi cael eu trosglwyddo rhwng y dynion a oedd yn ymweld â chartrefi Cooke yn ardal Wrecsam ar ddechrau’r 80au.

Un o’r diffynyddion fu’n ymweld â chartrefi Cooke oedd y cyn athro a pherchennog cartref plant, Roger Griffiths, 76,  clywodd y llys.

Dywedodd Eleanor Laws QC ar ran yr erlyniad y byddai’r bechgyn ifanc yn mynd i gartref Cooke lle’r oedden nhw’n gwylio ffilmiau pornograffig, yn cael alcohol a’r cyffur amyl nitrate, cyn cael eu cam-drin yn rhywiol. Ambell waith, meddai, fe fyddan nhw’n cael arian.

‘Dylanwadu’

“Roedd y bechgyn yn ifanc, yn agored i niwed, ac weithiau wedi’u hynysu oddi wrth eu teuluoedd ac yn cael eu dylanwadu gan Gary Cooke ac eraill,” meddai Eleanor Laws QC.

Mae Cooke, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Mark Grainger, wedi’i gyhuddo o 11 cyhuddiad o ymosod yn anweddus, pedwar cyhuddiad o ymosodiad rhywiol difrifol, a dau gyhuddiad o anweddustra gyda phlentyn. Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud a phedwar person.

Mae Roger Griffiths, o Wrecsam, yn wynebu dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus ar un person.

Clywodd y rheithgor bod Griffiths yn berchen cartref plant Gatewen Hall yn Wrecsam rhwng 1977 a 1983 a hefyd yn athro yng Nghanolfan Addysg Arbennig Wrecsam, sydd bellach wedi cau.

Dywedodd Eleanor Laws bod cofnodion yr heddlu yn dangos bod Griffiths yn droseddwr rhyw ac wedi’i gyhuddo yn 1999 o ymosod yn anweddus, ymosodiad rhywiol difrifol a chreulondeb i blentyn.

Roedd y dioddefwyr yn 16 oed ac yn breswylwyr yn Gatewen Hall, meddai’r erlyniad.

Y diffynyddion eraill

Mae’r cyn-dafarnwr David Lightfoot, 72, o Ellesmere Port yn Sir Gaer wedi’i gyhuddo o chwe ymosodiad anweddus, tri ymosodiad rhywiol ac un cyhuddiad o anweddustra gyda phlentyn, mewn perthynas ag un person.

Mae Keith Stokes, 62, a oedd yn bennaeth ar ladd-dy, o Farndon, yng Nghaer, wedi’i gyhuddo o bedwar ymosodiad anweddus, dau ymosodiad rhywiol difrifol, ac un cyhuddiad o anweddustra gyda phlentyn, mewn perthynas ag un person.

Mae’r cyn DJ radio lleol, Roy Norry, 54, yn wynebu chwe chyhuddiad o ymosod yn anweddus a dau ymosodiad rhywiol difrifol, yn ymwneud a dau berson.

Mae’r cyn gyrrwr bws, George Phoenix, 63, o Wrecsam wedi’i gyhuddo o un ymosodiad anweddus.

Ac yn olaf, mae Edward Huxley, 70, cyn was sifil o Cookham, yn Berkshire yn wynebu dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus, mewn perthynas ag un person.

Mae un o’r dioddefwyr yn honni ei fod wedi cael ei gam-drin yn rhywiol gan y saith diffynnydd pan oedd rhwng 12 a 15 oed.

Mae dioddefwr arall yn dweud ei fod mor ifanc ag 11 a 12 oed.

Mae’r saith dyn yn gwadu’r cyhuddiadau yn eu herbyn.

Mae disgwyl i’r achos barhau hyd at wyth wythnos.